Tractor yn symud car o faes parcio Gwyl Rhif 6 Llun: Golwg360
Mae sylfaenydd Gŵyl Rhif 6 wedi dweud heddiw fod trefnwyr yr ŵyl yn “ymddiheuro o waelod calon” am y trafferthion wnaeth arwain at gannoedd o geir yn cael eu difrodi mewn llifogydd a gorfodi  dros 100 o bobol i dreulio’r nos mewn canolfan hamdden.

Ond mae Gareth Cooper yn mynnu nad oedd swyddogion yn gwybod y byddai cymaint o flerwch ar safle’r maes parcio ac nad oedden nhw’n disgwyl llifogydd a thywydd mor “eithafol”.

Fe wnaeth ffermwyr lleol ddefnyddio tractorau i dynnu cannoedd o geir allan o fwd trwchus mewn cae y tu allan i dref Porthmadog yn dilyn yr ŵyl ym Mhortmeirion ar benwythnos 3 Medi.

Mae’r tir ynghanol gorlifdir naturiol ac yn dueddol o fod o dan ddŵr mewn glaw trwm.

Bydd gwersi yn cael eu dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn ôl Gareth Cooper, sydd wedi addo mai’r ŵyl y flwyddyn nesaf fydd yr orau eto.

 

‘Sefyllfa erchyll’

Meddai’r sylfaenydd: “Roedd y tywydd a welsom yng Ngŵyl Rhif 6 yn eithafol a dweud y lleiaf a hon oedd ein gŵyl fwyaf heriol hyd yma. Roedd y sefyllfa a oedd yn wynebu’r gyrwyr yn y maes parcio yn erchyll ac rydym yn ymddiheuro o waelod calon am hynny.

“Er hyn, nid oedd unrhyw ffordd o ragweld y byddai hyn yn digwydd ac nid oedd rhybudd nes bod y llifogydd ar waith – er gwaethaf cyhuddiadau di-sail. Pam y bydden ni wedi rhoi pobol mewn sefyllfa lle byddai eu heiddo yn cael eu difrodi ar bwrpas? Dyw hynny’n gwneud dim synnwyr.”

Roedd ymddiheuriad arall am y diffyg cyswllt gyda’r bobol sydd wedi gweld difrod i’w ceir.

“Mae ceisiadau mawr fel hyn yn medru cymryd tipyn i’w setlo – rydym wedi bod yn gweithio’n ddi-baid ac wedi gwthio i geisio cwblhau’r gwaith cyn gynted a bo modd,” meddai.