Mae pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer perfformiad acwstig prin gan Bryn Fôn yn nhafarn Fic Llithfaen heno.

Mae’r gig yn rhan o Ha’ Bach y Fic yw un o wyliau cerddorol bach olaf y tymor ac mae disgwyl i lond lle fod yno yfory hefyd.

Menter gymunedol sy’n rhedeg Tafarn y Fic yn Llithfaen ger Pwllheli ers 1988.

Fe fydd Bryn Fôn yn cychwyn canu ei sesiwn acwstig am tua 8:30yh heno.

Yfory fe fydd Tegid Rhys, The Welsh Whisperer, Jambys, Cowbois Rhos Botwnnog, Brython Shag, Gwerinos, Patrobas a Gai Toms a’r Band yn diddanu a’r bar yn agored tan ddau’r bore.