Golygfa o'r gorffennol - Gwyl y Dyn Gwyrdd (Llun g360)
Fe fydd trefnwyr un o’r prif wyliau cerddorol yng Nghymru’n gobeithio osgoi’r stormydd sy’n cael eu gaddo ar gyfer rhannau o’r wlad fory.

Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o dde Cymru, gyda’r ffin yn agos at Fannau Brycheiniog lle mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd newydd ddechrau.

Mae’r holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer yr ŵyl sy’n gael ei chynnal ar stad Glanusk ger Crughywel.

Mae nifer sylweddol o’r 20,000 o ymwelwyr yn gwersylla ar y safle yng nghysgod y Mynyddoedd Du.

Stormydd

Y disgwyl yw y bydd gwyntoedd cry’ a chawodydd trwm yn lledu o’r de-orllewin yn ystod fory, prif ddiwrnod yr ŵyl.

Mae’r perfformwyr eleni yn cynnwys rhai o enwau mwya’r byd pop-gwerin ac annibynnol gan gynnwys Meilyr Jones, Charlotte Church a Huw Stephens o Gymru.

Ymhlith y prif gantorion eraill, mae Belle a Sebastian, Laura Marling a’r seren jazz newydd Kasami Washington.