Mae’r Super Furry Animals wedi cyhoeddi manylion eu taith fydd yn dathlu ugain mlynedd ers iddyn nhw ryddhau’r albwm, Fuzzy Logic.

Mae hi hefyd yn bedair blynedd ar bymtheg ers iddyn nhw ryddhau Radiator ac fe fyddan nhw’n chwarae’r holl ganeuon oddi ar y ddau albwm yn eu trefn yn ystod y daith.

Mae tocynnau wedi mynd ar werth ben bore heddiw i’r rheiny sy’n derbyn cylchlythyr y band, a byddan nhw ar werth i’r cyhoedd o 9 o’r gloch fore Gwener.

Gall pobol sy’n tanysgrifio i’r cylchlythyr gael tocynnau drwy fynd i www.superfurry.com/tickets a theipio’r côd arbennig FUZZYLOGIC.

Bydd yr albwm ‘Fuzzy Logic’ yn cael ei ail-ryddhau ar Dachwedd 4, ynghyd ag albwm ‘Zoom, The Best of Super Furry Animals 1995-2016’, a’r band yn ymweld â Belffast, Dulyn, Norwich, Bryste, Bournemouth, Llundain, Birmingham, Caeredin, Brighton, Leeds a Nottingham. Fe fyddan nhw’n cloi’r daith gyda gig yn Arena Motorpoint, Caerdydd.