Y Stone Roses gwreiddiol
Mae Gŵyl Caergybi yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed gydag arlwy llawn cerddoriaeth byw, cystadleuaeth dynion cryf, twrnament gemau a ffair yr wythnos hon.

Yn goron ar y cyfan nos yfory fe fydd perfformiad byw gan fand teyrnged y Stone Rose, un o grwpiau enwocaf Lloegr.

Ar y nos Sul, mae noson i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol 2017, gyda’r Moniars, Calfari a’r Welsh Whisperer ymhlith y bandiau fydd yn chwarae.

Roedd neithiwr yn noson i gofio am y 30 o forwyr o Gaergybi a gafodd eu lladd can mlynedd yn ôl ar long y SS Connemara ar y ffordd i Iwerddon.

Noson ‘Cabaret’ yw’r thema heno, gyda band teyrnged The Jersey Boys yn chwarae. Mae’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu allan, gyda disgwyl 300 o bobol yno.

Dyn cryfa’ Caergybi

Mae disgwyl i’r ŵyl ddenu cannoedd yfory, gyda ffair, parêd, twrnament gemau Major X, a chystadleuaeth dyn cryf ar y prom, lle fydd dynion o bob cwr o Brydain tynnu lorïau i brofi eu cryfder.

Bydd cymeriadau adnabyddus rhaglenni plant S4C yn yr ŵyl ddydd Sul hefyd.

Mae’r ŵyl yn ehangu bob blwyddyn, gyda phabell mwy wedi’i llogi ar gyfer perfformiadau’r nos a noson ychwanegol wedi’i hychwanegu i’r arlwy eleni.

Denu 20 o fysiau

“Mae’n ŵyl gymunedol, sy’n cael ei chynnal gan y gymuned i’r gymuned,” meddai un o’r trefnwyr, Dave Hughes.

“Rydym yn cael cymorth gan sawl busnes lleol, mae [cwmni llongau fferi] Stena yn helpu lot ac mae Bwrdd [pobol busnes lleol] Caergybi yn arwain lot hefyd.

“Mae’n benwythnos prysur iawn, mae 20 o fysiau yn dod i’r twrnament Major X, felly mi fydd yn dod â llawer i Gaergybi.”