Mae disgwyl i dros 1,000 o bobl dyrru i Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos, gyda’r trefnwyr yn dweud fod y tocynnau yn gwerthu’n well nag ar unrhyw bryd ers pum mlynedd.

Dywedodd Emyr Lloyd: “Hyd yma, rydym wedi gwerthu mwy o docynnau eleni nag ar unrhyw adeg ers inni ddychwelyd i’r Sgwar bum mlynedd yn ôl.  Mae’n cynyddu bob blwyddyn.”

Mae yna nifer o ddigwyddiadau ar hyd a lled tref ddeniadol Dolgellau yn rhan o’r ŵyl eleni, yn amrywio o’r llenyddol i’r cerddorol gan ddechrau heno a gorffen nos Sul.

Meddai Emyr Lloyd: “Mae prif lwyfan y Sesiwn eleni yng nghefn Tafarn y Llong gyda’r adloniant nos Wener a nos Sadwrn, a phrynhawn dydd Sul. Ymhlith yr uchafbwyntiau yw’r hen stejars poblogaidd Mynediad am Ddim a band Yws Gwynedd a fydd yn gorffen y noson heno, tra y bydd Elephant Sessions o’r Alban yn gorffen yfory a’r band Indiaidd, Ghazalaw a Gwyneth Glyn yn gorffen yr holl sesiwn ddiwedd p’nawn Sul.”

Tŷ Siamas

Fe fydd llwyfan hefyd yng nghanolfan werin Tŷ Siamas gyda Sera Louise a Magi Tudur yn diddanu, tra y bydd digwyddiadau llenyddol yng Nghaffi TH Roberts yn cynnwys lansiad gan Lowri Haf Cooke o’i chyfrol Caffis Cymru a sgyrsiau yng ngofal Bethan Gwanas.

Ychwanegodd Emyr Lloyd: “Mae yna rywbeth at ddant pawb yn y Sesiwn eleni a gobeithio fe fydd y tywydd yn dal er mwyn gwneud y profiad yn well byth.”