Syr Mick Jagger
Mae canwr gwefusfawr y Rolling Stones am fod yn dad am yr wythfed tro.

Dywedodd llefarydd Syr Mick Jagger fod ei gariad 29 oed, y ddawnswraig ballet Melanie Hamrick o America, yn feichiog.

Yn hen daid, mae’r canwr wedi cael saith o blant gyda phedair dynes – Karis, Jade, Elizabeth, James, Georgia, Gabriel a Lucas. Mae’r hynaf yn 45 a’r fengaf yn 17 oed.

Daw’r newyddion ddeufis wedi i wraig Ronnie Wood, gitarydd 68 oed y Rolling Stones, eni efeilliaid.