Gwyl Tafwyl, Caerdydd
Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio ar brif lwyfan yr ŵyl Gymraeg yng Nghaerdydd eleni mae Maffia Mr Huws, Y Niwl, Band Pres Llareggub, Sŵnami a Candelas.

Yna, ar lwyfan acwstig yr ŵyl sy’n dathlu deng mlynedd eleni, fe fydd cyfle i glywed cerddoriaeth gan Meic Stevens, Alys Williams, Colorama, Plu, Al Lewis a Huw M.

Cafodd Tafwyl ei sefydlu’n wreiddiol gan Fenter Caerdydd yn 2006, ac mae wedi tyfu bob blwyddyn gyda gŵyl ymylol yn cael ei chynnal eleni sy’n dechrau ar Fehefin 25.

Coginio, llên a chomedi

Er hyn, nid gŵyl gerddorol yw hi’n unig, ac fe fydd cyfle i flasu bwyd a diod o Gymru – a hynny o dan arweiniad y cogydd Bryn Williams mewn sesiwn goginio arbennig.

Yn ogystal, fe fydd Jon Gower, Beti George a Lowri Haf Cooke yn cynnal sesiynau yn trafod llenyddiaeth, ac fe fydd sesiynau comedi gan Glwb Comedi Tafwyl.

Mae ardal arbennig wedi’i neilltuo i bobol ifanc hefyd, gyda gweithdai ffotograffiaeth, ffasiwn a pherfformiadau tân gan Nofit State.

‘Y gorau o’r sin Gymraeg’

“Dyma’r rhaglen orau a’r fwyaf rydym wedi rhoi at ei gilydd dros y deng mlynedd diwethaf,” meddai Llinos Williams, trefnydd yr ŵyl.

“Mae amrywiaeth wych o weithgareddau ar gyfer pob oedran, sy’n arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gaerdydd, a Chymru i’w gynnig.

“Does unman gwell i ddal y gorau o’r sin Gymraeg ar hyn o bryd, ac i ddarganfod rhywbeth newydd.”

Caiff yr ŵyl ei chynnal rhwng yr ail a’r trydydd o Orffennaf yng ngerddi Castell Caerdydd, gyda mynediad am ddim yn ystod y penwythnos.