O'r clawr
Gwenno Saunders sydd wedi cipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2014-2015 am ei halbwm, Y Dydd Olaf.

Mae enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi heno mewn seremoni yn Theatr y Sherman, Caerdydd, a’r DJ Huw Stephens, un o sylfaenwyr y wobr a gyflwynodd y tlws i’r artist cerddorol o Gaerdydd.

Roedd y gystadleuaeth eleni yn cynnwys mwy o gyhoeddiadau Cymraeg nag erioed, gyda thri yn cyrraedd y 15 uchaf ar y rhestr fer.

Albwm cynta’

Y Dydd Olaf yw albwm llawn cyntaf Gwenno Saunders, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref 2014 fel albwm cyfyngedig ar label recordiau Peski.

Er hynny, cafodd yr albwm ei ail-gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2015 ar ôl i’r gantores arwyddo cytundeb â Heavenly Recordings.

Fe enillodd yr albwm, sydd yn Gymraeg, heblaw am un gân Gernyweg, y wobr am ‘Albwm Gorau Cymraeg’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni hefyd.

Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig bellach yn ei phumed flwyddyn ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys  Georgia Ruth am Week of Pines, Future of the Left am The Plot Against Common Sense a Gruff Rhys am Hotel Shampoo.

Dyma’r rhestr fer eleni,

Calan – Dinas (Sain)

Catfish and the Bottlemen – The Balcony (Island / Communion Records)

Geraint Jarman – Dwyn yr Hogyn Nôl (Ankst)

Gwenno – Y Dydd Olaf (Peski / Heavenly Recordings)

H Hawkline – In the Pink Condition (Heavenly Recordings)

Hippies vs Ghosts – Droogs

Houdini Dax – Naughty Nation (Houdini Dax / Listen to This)

Joanna Gruesome – Peanut Butter (Fortuna POP!)

Keys – Ring the Changes (See Monkey Do Monkey)

Paper Aeroplanes – Joy (My First Records)

Richard James – All the New Highways

Tender Prey – Organ Calzone (Bird)

Trwbador – Several Wolves (Owlet)

Zarelli – Soft Rains (Bronze Rat)

Zefur Wolves – Zefur Wolves (Strangetown)