Yws Gwynedd
Mae rheolwr neuadd yn y gogledd yn dweud bod cannoedd o docynnau i weld dau o enwau mawr y Sîn Roc Gymraeg wedi gwerthu fel slecs.

Eisoes mae 250 o docynnau i weld Bryn Fôn heno yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon wedi eu gwerthu, a 50 ychwanegol wedi eu cadw yn ôl i’w gwerthu ar y drws.

Ac fe werthwyd 300 o docynnau ar gyfer gig Yws Gwynedd ar Ragfyr 27 “mewn awr” a bu’n rhaid trefnu ail noson.

Yn ôl y trefnydd mae’r 300 tocyn ar gyfer yr ail gig ar Ragfyr 28 wedi eu gwerthu hefyd.

Bryn yn boblogaidd

Mae Bryn Fôn yn sicr o ddenu’r cannoedd yn ôl rheolwr Neuadd y Farchnad.

“Dyma fydd yr ail waith i Bryn Fôn chwarae yma,” meddai David Williams.

“Mae’r dyn yn llenwi’r lle yn dydi, mae’n arwr lleol. Mi’r ydan ni’n gwybod ein bod ni’n cael noson dda pan mae Bryn yma. Mae pawb yn mwynhau Bryn Fôn, o 14 oed i bobl yn eu 80au. Mae’n dda i weld boi fel hyn jyst mor boblogaidd.”

Gwerthu allan “mewn awr”

Ychwanegodd David Williams fod y galw am docynnau i weld un arall o sêr y Sîn  wedi bod yn syfrdanol.

“Mae gynnon ni gig arall ar Ragfyr 27ain efo Yws Gwynedd ac mi werthodd y tocynnau i gyd mewn awr! Mi fuo yn rhaid i ni ofyn i Yws Gwynedd os fyse fo’n gwneud diwrnod wedyn, ac mi brintion ni docynnau iddo ddiwrnod wedyn ac mi werthodd rheiny i gyd hefyd.”