Ynyr Llwyd
Mi fydd y canwr-gyfansoddwr Ynyr Llwyd yn lansio ei EP newydd  Awyr Iach heno yng Nghlwb Golff Dinbych.

‘Awyr Iach’ yw enw’r ail gân ar yr EP, a dyma’r un “mwya’ unigryw” o blith y casgliad yn ôl y canwr.

Mae arni leisiau harmoni hyfryd a’r gitârs a’r dryms arferol, ond hefyd mae yma fanjo a thiwba ynghyd â’r canwr yn chwibanu yn hamddenol i gyfleu’r pleser syml a hwyliog o fynd am dro.

Canfod hapusrwydd yn y pethau bach, wedi wythnos brysur, wnaeth ysbrydoli’r gân.

Mae Ynyr Llwyd mewn band o’r enw The Right Stuff sy’n perfformio bob dydd Sadwrn, fwy neu lai, a gweddill yr wythnos mae’n gallu bod yn cyfansoddi ar gyfer rhaglenni S4C ac yn cynnal gweithdai cyfansoddi mewn ysgolion ledled gogledd Cymru.

“Rydw i wedi mynd yn ofnadwy o brysur, yn gyffredinol, efo bob dim,” meddai.

“Am bo fi’n gerddor hunangyflogedig ac yn gweithio o fewn gwahanol feysydd – yn perfformio, cyfansoddi, sesiynau mewn ysgolion – mae o i gyd yn adeiladu ar ben ei gilydd.

“Wedyn wnes i feddwl ar un tro, wrth fynd am dro hefo [fy ngwraig] Chelsey: ‘O mae hyn yn braf!’

“Cael mynd am dro, switch off, time out. Dipyn bach o awyr iach, clirio pen, a recharge cyn yr wsos ganlynol.

“Roedd o’n od, ac roeddwn i’n meddwl: ‘Mae hyn yn lot fwy gwerthfawr nag y mae rhywun yn feddwl’.”

Mwy am y casgliad yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.