Utica, trydydd albwm Huw M
Bydd Huw Meredydd Roberts, neu Huw M fel mae’n cael ei adnabod, yn cyhoeddi ei drydydd albwm heno yng Nghaerdydd.

Mae Utica wedi’i selio ar berthynas gerddorol Cymru ac America, ac mae’r canwr-gyfansoddwr wedi  ‘plethu dylanwadau gospel cynnar a chanu gwerin’.

Mae’n gymysgedd o felodïau gwreiddiol a chaneuon gwerin, gyda Lucy Simmonds yn chwarae’r sielo ac yn canu, Bethan Mai yn canu ac yn chwarae’r acordion ac Iolo Whelan ar y dymïau, offerynnau taro ac yn canu.

Dylanwadau o Gymru i America

Y bardd Rowland Walter o Flaenau Ffestiniog, wnaeth ymfudo i America yn 1852 a’r canwr gwerin diweddar, Meredydd Evans sydd ymhlith y rhai a ddylanwadodd Huw M i ysgrifennu’r albwm.

Ar ôl cyrraedd America, roedd Rowland Walter wedi’i gythruddo o weld caethwasiaeth yno a chafodd ei gyflyru i ysgrifennu cerdd am noson olaf mam a phlentyn gyda’i gilydd, sef ‘Si hwi hwi’.

Canrif yn ddiweddarach, symudodd Merêd, yn ysgolor ifanc i America i astudio yn Princeton, gan recordio albwm o gerddoriaeth werin Gymraeg yn ystod ei gyfnod yno.

Dyma fe’n cynnwys ‘Si hwi hwi’ ar yr albwm honno, hwiangerdd oedd ei fam yn arfer canu iddo, gan gau cylch dros yr Iwerydd ac anfarwoli’r gân brotest hon.

Cafodd Huw M ei ysbrydoli gan daith y gân dros yr Iwerydd ac mae ei ffurf ddiweddar yn cael lle yn Utica.

Mae’r albwm hefyd wedi ei dylanwadu gan y casglwr caneuon gwerin Alan Lomax.

Mae’r gân sy’n cloi Utica yn fersiwn o ‘Worried now, won’t be worried long’, sef cân a gafodd ei chanfod ar recordiad a wnaed gan Alan Lomax yn 1959 yn Senatobia, Mississippi.

Recordio’r albwm yn ‘fyw’

Mae’r albwm wedi cael ei recordio yn ‘fyw’ er mwyn ‘clywed enaid llychlyd’ pob cân ac mae themâu oesol o ofid a hiraeth yn rhedeg drwyddo.

Bydd lansiad yr albwm yn Eglwys St. John yn Nhreganna, Caerdydd heno am 7:30.