Portmeirion
Mae’r holl docynnau ar gyfer Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion yr wythnos nesaf wedi cael eu gwerthu.

Cafodd y tocyn penwythnos olaf ei werthu ddydd Gwener, a dim ond llond dwrn o docynnau sydd ar gael ar gyfer diweddglo’r ŵyl ddydd Sul.

Mae modd prynu tocynnau dydd Sul ar y wefan www.festivalnumber6.com.

Dywed y trefnwyr mai hon fydd yr ŵyl fwyaf gyffrous eto.

Dywedodd sylfaenydd yr ŵyl, Gareth Cooper: “Mae Gŵyl Rhif 6 wedi mynd o nerth i nerth ers 2012 ac wrth fynd i mewn i’r bedwaredd flwyddyn, rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi gwerthu’r holl docynnau.

“Mae’n ŵyl wirioneddol unigryw, fwy na thebyg yn y lleoliad mwyaf godidog yn y byd.

“Ychwanegwch at hynny y cynnwys hynod o gyfoethog o sbectrwm cerddoriaeth, y celfyddydau a’r diwylliant, o Grace Jones i Mark Ronson i Steve Coogan, a dydy hi ddim yn syndod ein bod ni wedi cyrraedd ein capasiti.

“Gyda’r rhagolygon yn argoeli’n dda, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarparu penwythnos hudolus a chofiadwy i’n gwesteion.”

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o ddydd Iau i ddydd Sul ym mhentref hanesyddol Portmeirion, lle cafodd y gyfres ‘The Prisoner’ ei ffilmio ac a ddyluniwyd gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis.

 

Artistiaid

Bydd y comedïwr, actor ac awdur byd enwog Steve Coogan yn perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion eleni.

Dyma fydd ymddangosiad prin gan seren I’m Alan Partridge  ar gyfer sgwrs gyda’r newyddiadurwr Amy Raphael am ei yrfa yn y Piazza ar brynhawn Sadwrn yr ŵyl.

Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi y bydd sgwrs gyda’r cerddor a DJ Mark Ronson a chyfarwyddwr ffilm newydd am y gantores Amy Winehouse.

Yn ogystal, bydd y canwr James Morrison yn agor prif lwyfan yr ŵyl ar y Sul.