Bydd y cytundeb recordio gyntaf i gael ei arwyddo gan y Beatles yn mynd dan y morthwyl mewn ocsiwn yn Efrog Newydd mis nesaf.

Mae disgwyl i’r cytundeb cafodd ei arwyddo yn ninas Hamburg, Yr Almaen, cael ei werthu am o gwmpas £100,000. Allan o’r sesiwn yma yn 1961 cynhyrchwyd y sengl “My Bonnie” a chafodd ei ryddhau yn yr Almaen yn unig.

Yn 1961, roedd y Beatles yn perfformio mewn clybiau nos yn Hamburg ac yno perffeithiodd y grŵp eu crefft.

Doedd y sengl ddim yn llwyddiannus, ond arweiniodd at ddarganfod y Beatles yn ôl yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd y diddordeb ynddynt cynigwyd  cytundeb nesaf y Beatles gyda chewri cerddoriaeth ar y pryd, EMI gan gynhyrchu eu sengl lwyddiannus gyntaf, Love Me Do.

Mae’r ddogfen chwe tudalen yn rhan o ystâd, Uwe Blaschke, arbenigwr hanes y Beatles pan oeddynt yn yr Almaen. Bu farw Uwe Blaschke yn 2010. Gwelir y cytundeb fel canolbwynt ei gasgliad sy’n pontio gyrfa gyfan y Beatles.

Bydd yr ocsiwn yn cymryd lle ar Fedi 19.