Aled Rheon
Os ydych chi wedi bod yn Eisteddfod Meifod eleni un peth oedd yn sicr ddim yn brin ohono oedd cyfleoedd i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio ag Y CledrauBromasWelsh WhispererJaffroAl Lewis a Sŵnami, a’r diweddaraf i ymuno â ni am glonc ar y maes a thiwn fach ydi’r canwr Aled Rheon.

Mae Aled Rheon yn un o artistiaid prosiect Gorwelion eleni, ac fe fu Llewelyn Hopwood yn sgwrsio ag ef am ei brosiectau cerddorol diweddar.

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân ag Aled Rheon yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Aled Rheon a chael rhagor o wybodaeth amdano ar ei dudalennau Soundcloud a Twitter.