Al Lewis
Os fyddwch chi yn Eisteddfod Meifod eleni un peth fyddwch chi’n sicr ddim yn brin ohono fydd cyfle i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio ag Y CledrauBromasWelsh Whisperer a Jaffro, a’r diweddaraf i ymuno â ni am glonc ar y maes a thiwn fach ydi’r adnabyddus Al Lewis.

Llewelyn Hopwood sy’n sgwrsio â’r canwr am ei brosiectau gydag Al Lewis Band, a Lewis and Leigh ble mae’n cydweithio â’r artist o Mississippi Alva Leigh.

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân ag Al Lewis yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Al Lewis Band a chael rhagor o wybodaeth am y band ar eu gwefan a’u tudalennau SoundcloudFacebook a Twitter.