Jaffro
Os fyddwch chi yn Eisteddfod Meifod eleni un peth fyddwch chi’n sicr ddim yn brin ohono fydd cyfle i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.

Drwy gydol yr wythnos fe fyddwn ni hefyd yn dod a sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.

Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio â band Y CledrauBromas a Welsh Whisperer, a’r diweddaraf i ymuno â ni am glonc ar y maes a thiwn fach yw William Pritchard, sydd yn canu dan yr enw Jaffro.

Ukelele sydd gan Jaffro i chwarae tiwn fach i ni heddiw, ond fel mae Llywelyn Hopwood yn darganfod, mae’n bell o fod yr unig offeryn mae’n gallu chwarae!

Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân gyda Jaffro yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Jaffro a chael rhagor o wybodaeth am y band ar ei dudalennau Soundcloud a Facebook.