Sgwrs a Chân gyda Gildas Mae’r arlwy cerddorol ar faes yr Eisteddfod eleni yn addo bod yn un bywiog unwaith eto, gyda Chaffi Maes B, y Tŷ Gwerin, Llwyfan y Maes a sawl stondin arall yn sicrhau y bydd digon o diwns i’w clywed.
Fe fydd Golwg360 hefyd yn dychwelyd gyda’n heitemau Sgwrs a Chân, wrth i ni fachu gair bach sydyn â rhai o artistiaid amlycaf Cymru yn ystod yr wythnos yn ogystal â chlywed ambell gân ganddyn nhw.
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerffili eleni fe fuon ni’n sgwrsio a gwrando ar Gildas, Plu, Calan, Y Ffug, Roughion a Gareth Bonello, gyda’r fideos yn cael eu gwylio cannoedd o weithiau ar YouTube.
Mi fydd gennym ni sawl Sgwrs a Chân i ddod o’r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yr wythnos nesaf hefyd – cadwch lygad allan ar Golwg360 am ambell sesiwn arbennig!
Yn y cyfamser, dyma gyfle arall i chi wylio rhai o’r cyfweliadau a chaneuon o Gaerffili:
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.