Roughion
Mae Roughion, y ddeuawd electronig o Aberystwyth, wedi rhyddhau sengl newydd heddiw – y gan gyntaf i gael ei rhyddhau yn y Gymraeg o dan y genre UK Bass.

Mae’r sengl ‘A Oes Heddwch? VIP’, ailgymysgiad Roughion o’u trac eu hunain ‘A Oes Heddwch?’, sy’n defnyddio sampl o un o ddefodau hynaf Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ble mae’r Archdderwydd yn datgan y cyswyn eiriau a’r gynulleidfa yn ateb ‘Heddwch’ iddynt deirgwaith.

Meddai Roughion, neu Seffan Woodruff a Gwion James, sydd wedi bod yn cynhyrchu cerddoriaeth gyda’u gilydd ers tua blwyddyn, fod y trac yn “gwthio’r ffiniau o beth sy’n dderbyniol yn ein pop culture Cymraeg” wrth ryddhau’r gân gyntaf erioed o’r genre UK Bass yn yr iaith.

Dywedodd Roughion: “Mae Roughion yn ceisio creu turbulence yn y sín Gymraeg sydd yn cael ei bombardio gan fandiau gitars a cherddorion gan ddangos fod yna gerddoriaeth arall allan yn y byd.”

Ychwanegodd y ddau, sydd wedi rhyddhau EP o’r enw Heddwch ac Helynt,  fod mwy o bethau uchelgeisiol fel HeddwchVIP ar y ffordd.

Mae ‘A Oes Heddwch? VIP’ yn cael ei ryddhau fel sengl Nyth gan Recordiau I Ka Ching ac mae ar gael fel sengl ddigidol am ddim o soundcloud.com/nyth.