Super Furry Animals yn 2009 (llun: Flickr/Mark Turner)
Owain Schiavone sydd yn pendroni a fydd vintage 2015 cystal â’r gwreiddiol …

Felly, maen nhw nôl. Wedi chwe mlynedd o egwyl, bydd y Super Furry Animals yn perfformio’n fyw eto yng Nghaerdydd heno ac mae’r cyffro wedi bod y tyfu’n raddol dros yr wythnosau a’r dyddiau diwethaf.

Er fy mod i’n betrusgar, a tan echnos ddim yn bwriadu mynd, mi fyddai yno ym Mhrifysgol Caerdydd. Y cwestiwn mawr i mi ydy a fydd hi fel yr hen ddyddiau, neu ai Super Furry’s gwahanol iawn fydd ar yn dychwelyd i’r llwyfan.

Wrth edrych ymlaen, mae’n anochel bod rhywun yn edrych yn ôl ac yn hel atgofion am gigs cofiadwy’r gorffennol – a gyda’r Furry’s roedden nhw bob amser yn gofiadwy! Dyma’r pum gig mwyaf cofiadwy i mi’n bersonol:

Y tro cyntaf…

Canolfan Aberconwy (Venue Cymru bellach), Eisteddfod Bro Colwyn, Awst 1995

Roedd y gig SFA cyntaf i mi yn ystod yr Eisteddfod cyntaf i mi fynd allan i’r gigs nos (sawl awr / diwrnod wedi’u treulio yn y Babell Roc cyn hynny wrth gwrs).

Nos Wener oedd hi, ac ro’n i eisoes wedi cael lifft mewn cefn landrover i gig Sobin yn Kinmel Manor nos Fawrth, ac i’r noson techno yn Llandudno ar y nos Iau.

Dyma’r gorau o’r gigs, ac roedd ‘na dipyn o buzz o gwmpas y band yma oedd, yn ôl yr hyn nes i glywed ar ddiwedd y noson, yn trafod gyda label mawr yn Llundain.

Er hynny, rhaid cyfaddef mai un o’r bandiau cefnogol, Beganifs, wnaeth greu’r mwyaf o argraff arna i ar y noson!

Cydio go iawn…

Swallow Falls, Betws y Coed, rhywdro ym 1996

Dwi’m yn cofio pryd yn union oedd y gig yma, ond dwi’n amau ei fod o jyst cyn i’r albwm cyntaf, Fuzzy Logic, ddod allan.

Roedd ‘na dipyn o sin yn Nyffryn Conwy, ac ym Metws y Coed yn benodol bryd hynny efo criw Melys ar flaen y gad yn cynnal gigs rheolaidd yn Swallow Falls ar y pryd.

Dw i’n cofio gweld Gorkys a Catatonia yn chwarae yn yr un ganolfan tua’r un cyfnod. Roedd y 300 o docynnau wedi gwerthu allan y noson yna, a dyna pryd dwi’n cofio sylweddoli bod rhain yn fand gwirioneddol arbennig, a dod yn ffan go iawn.

Dal dy ddŵr mae’r ffôn yn canu…

Pafiliwn Corwen, Mehefin 1999

Roedd hwn yn gyfnod da o ran gigs Cŵl Cymru, ac ro’n i newydd fod i gig Catatonia anhygoel yn Llangollen rhyw fis ynghynt.

Mi wnaethon ni deithio ar fws o Lanrwst i’r gig, ac roedd Corwen yn orlawn ac yn amhosib cael peint yn y dre – buzz go iawn, a fel yr hen ddyddiau yn y lleoliad gigs eiconig yma, am wn i!

Dw i’n credu bod Guerrilla newydd ddod allan, ac roedd y set yn gymysgedd o ganeuon o’r albwm newydd a Radiator. Mae gen i gof fwynhau ‘Ice Hockey Hair’ yn arbennig ac mae gen i deimlad eu bod nhw wedi cloi gyda ‘The Man Don’t Give a F**k’ gan chwalu pen pawb yn llwyr.

Yr atgof cliria ydy gweld rhywun ar ei ffôn symudol (oedd dal yn bethau reit brin bryd hynny) wrth adael a chanu ‘Wherever I lay my phone’ wrth gerdded heibio iddo.

Pesda Roc…

Clwb Rygbi Bethesda, Mehefin 2003

Clamp o gig wedi’i drefnu gan hen griw Pesda Roc, gan gynnwys Dafydd Rhys, brawd Gruff. Roedd ‘na gymysgedd eclectig o artistiaid, gan gynnwys Cerys Matthews a Celt.

Dw i’n meddwl bod ‘na tua 3000 o bobl yna, ond roedd y bar yn eithriadol o fach felly noson gymharol sych eto, ond roedd y mosh pit yr un mor egnïol ag arfer.

Fuon ni braidd yn flêr trwy beidio â threfnu tacsi adre … felly taith gerdded ganol nos yn ôl i Fangor oedd i goroni’r noson.

Un fach od…

Undeb Myfyrwyr Wrecsam, Mai 2005

Ia, gig fach ryfedd oedd hon. Roedd ‘na fws o Aberystwyth wedi’i drefnu gan Dan Bach yn teithio i fyny ar nos Fercher, ac mi wnaethon ni wylio hanner cyntaf ffeinal Cynghrair y Pencampwyr rhwng Lerpwl ac AC Milan yn nhafarn y Turf … roedden nhw’n colli 3-0 wrth i ni adael am y gig.

Mae’r gig yma wedi hollti barn, efo rhai’n honni bod meddwl y band ar y gêm bêl-droed yn hytrach na’r gig, a rhai wedi awgrymu bod Daf Ieuan yn gwylio hi ar sgrin fach wrth ddrymio!

Dw i’n cofio mwynhau’n arw o’r eiliad y dechreuodd yr anhygoel ‘Slow Life’ i agor y set. Mi wnaethon nhw chwarae yn Sesiwn Fawr rhyw ddeufis yn ddiweddarach, a dwi’n cofio meddwl eu bod nhw’n wych yn y gig yna hefyd er bod rhai’n dweud fel arall.

Dwi’n amau y bydd y gigs yng Nghaerdydd yn wahanol iawn i’r hen ddyddiau, ond os ydyn nhw hanner mor gofiadwy a rhain uchod, fyddai’n ddigon hapus.