Endaf Gremlin
Bydd y band Endaf Gremlin yn chwarae gyda’u gilydd am y tro olaf nos Wener nesa.

Mae’r grŵp gwneud sy’n cynnwys aelodau rhai o fandiau mwyaf adnabyddus Cymru, yn ffarwelio a’r sîn ym mharti Nadolig yr hyrwyddwyr cerddoriaeth Nyth ym mar Gwdihw, Caerdydd.

Cafodd Endaf Gremlin ei greu yn 2013 gan drefnwyr gigs Maes B i hybu’r sîn Gymraeg. Mae’r aleodau yn cynnwys Mei Gwynedd (Sibrydion), Osian Williams (Candelas), Rhys Aneurin (Yr Ods), Dylan Hughes (Race Horses) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog).

Dywedodd Rhys Aneurin, sy’n charae’r allweddellau i’r band ei bod hi’n “teimlo’n iawn” i ddod a’r band i ben ar “nodyn uchel”.

Meddai: “Snam byd yn para am byth, ac yn sicr doedd Endaf gremlin ddim i fod i bara am byth. Fel pump ffrind, da ni wedi cael lot o hwyl yn y flwyddyn a hanner diwethaf ond mae’n teimlo’n iawn i orffen y peth ar nodyn uchel ar ddiwedd y flwyddyn.

“Mae gennym ni barhc mawr at griw Nyth ac  felluy’n falch o allu rhannu’r dathliad gyda nhw.”

Dywedodd Gwyn Eiddior, un o drefnwyr Nyth: “Er ei bod hi’n achlysur trist, mae’n fraint ac yn anrhydedd cael Endaf Gremlin i chwarae am y tro olaf ym mharti Nadolig Nyth.

“Mae’r band wedi bod yn rocio dros Gymru ers dros flwyddyn bellach a dw i’n siwr y byddan nhw’n rhoi sioe a hanner i ni nos Wener.”

Yn ogystal, bydd Brigyn yn lawnsio eu halbwm newydd, Brigyn 4, yn y noson a bydd y band Y Yo’s hefyd yn perfformio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.facebook.com/events/1562344610666445/?fref=ts