Miriam Elin Jones
Miriam Elin Jones fu’n gwrando ar albwm newydd Bromas, sydd allan dydd Llun …

Jyst mewn pryd ar gyfer y Nadolig, mae Bromas yn cyflwyno anrheg gynnar i ni ar ffurf albwm newydd.

Fel y datgelodd Llewelyn Hopwood mewn cyfweliad arbennig gyda golwg360 yr wythnos ddiwethaf, mae cyfnod newydd yn gwawrio i fois Bromas wrth iddynt ryddhau eu hail albwm, Codi’n Fore.

Teitl-trac yr albwm sy’n cyflwyno’r casgliad, ac mae’r gân fywiog hon yn eich deffro ac yn rhagflas addas i naws hwyliog y caneuon i gyd.

Mae’r solo gitâr sy’n ei chloi fymryn yn ddramatig a diangen, ond ar y cyfan, teimlwn natur ifanc a drygionus Bromas ar ei orau yn y gân gyntaf.

Dilynir ‘Codi’n Fore’ gyda ‘Fersiwn o Fi’, sydd, fel ambell un arall o’r casgliad, yn hen gyfarwydd i ffans Bromas sydd wedi arfer â’u setiau byw – mae’n arafu’r tempo, gan gyflwyno nodyn mwy myfyriol am y bersonoliaeth o’ch hun a drosglwyddir drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

‘Codi’n Fore’, un o’r traciau oddi ar yr albwm:

Direidus, ond difrifol hefyd

Yn wir, mae’r albwm cyfan yn gymysgedd o ddireidi a difrifoldeb. Cyflwynir cymeriad digon truenus i ni ar ffurf ‘Huw’, gyda’r cydganu effeithiol yn adrodd hanes ei fywyd carwriaethol trychinebus.

Mae’r sengl adnabyddus ‘Merched Mumbai’ eisoes wedi creu cryn dipyn o argraff, wrth i’r pedwarawd o Sir Gaerfyrddin ysu am gyris tipyn poethach na rhai di-flas Siân a Hywel a mynd ati i arbrofi gyda sŵn y sitar.

Ar y llaw arall, serch hynny, mae ‘’Stafell Wag’ yn gân deimladwy iawn, tra bod alaw dywyll ‘Cariad’ a’r sibrwd sinistr – “dim dillad, jyst cariad” – yn cyflwyno gwedd newydd i’r band.

Synnaf ar adegau gallu Owain Huw i addasu ei lais anhygoel ar gyfer gwahanol ganeuon – yn wir, mae’n ganwr heb ei ail, a theimlwn yr angerdd a’r tristwch yn ei lais wrth iddo hiraethu am Ela Mai, femme fatale yr albwm, cyn clywed y wên wrth iddo’n gorchymyn i ni wenu yn ‘Gwena’.

Tynna hyn ni i fyd yr albwm, ac mae’n ddigon hawdd gweld sut aeth yr Urdd ati i addasu’r caneuon ar gyfer sioe gerdd.

Rhagflas byr i chi o ganeuon yr albwm:

Byd Bromas

Mae’r naws storïol yn rhan o’r albwm, wrth i ni gael ein cyflwyno i gymeriadau di-ri megis Ela Mai a Huw gan greu rhyw fath o fyd arbennig,

Cyfeirir at Ela Mai mewn caneuon eraill, ac mae’r gyfeiriadaeth gyson yn ei gwneud hi’n debyg iawn i albwm gyntaf McFly, Room on the Third Floor, lle gwelwn rywbeth tebyg, wrth iddynt gyfeirio at ferch arbennig a’i chariad bygythiol sawl gwaith yn y casgliad.

Yn ogystal â hynny, dyma albwm sy’n berthnasol i bobl ifanc heddiw. Mae’n cynnwys crefu am ferch arbennig sydd allan o’u gafael (‘Ela Mai’) a sôn am greu’r proffil Facebook delfrydol (‘Fersiwn o Fi’), problemau cyffredin sy’n hawdd i bobl yn eu harddegau uniaethu â hwy.

Ond nid yn unig hynny, mae caneuon megis ‘Gofyn a Joia’ – “paid difaru, cer amdani” – a ‘Gwena’ yn annog eu gwrandawyr i fyw bywyd i’r eithaf, a hynny ar ffurf caneuon pop uffernol o catchy.

Mae hon yn albwm ganeuon na fyddai’r ots gan yr un rhiant glywed eu plant yn gwrando arnynt, heb reg yn agos iddi.

Cyfeiriad newydd



‘Diolch yn Fawr’, finale llon â geiriau dirmygus cynulleidfa flin, digon tafod-mewn-boch, sy’n cloi’r casgliad. Ond wir, mae’r diolch i chi Bromas am gasgliad arall o ganeuon bachog.

Mae’r albwm hon yn llai o sioe na Cysgu’n Brysur – nid oes yna’r un ffỳs a ffrils yn perthyn iddi, ac mae’r sŵn fymryn (dim ond fymryn) yn fwy amrwd.

Roedd dod i arfer a chân tipyn symlach megis ‘Gwena’ (cân wanaf yr albwm) wedi cael fy swyno gan alawon hudolus Cysgu’n Brysur  yn rhyfedd i ddechrau. Fodd bynnag, does dim byd o’i le ac arbrofi gyda chyfeiriadau newydd.

Fuaswn i ddim yn cyfeirio at Bromas fel band edgy fel Candelas, na chwaith band ‘o-mai-god-nathon-nhw-ddim-jyst-dweud-HYNNA?!’ fel Y Ffug.

Ond dyma albwm sy’n profi bod angen pop glân a gonest ar bob sin cerddorol.

Marc – 8/10