Eleni fe fydd brodyr Brigyn yn dathlu degawd o fodolaeth y band trwy ryddhau eu casgliad cyntaf ers blynyddoedd – ac mae gan golwg360 ragflas arbennig i chi o un o’r caneuon.

Bydd albwm newydd y band, Brigyn 4, yn cael ei ryddhau dydd Llun 24 Tachwedd ac mae’n llawn caneuon hapus, yn ôl y canwr Ynyr Roberts.

Mae un o’r traciau, ‘Fflam’, eisoes yn gyfarwydd i wylwyr S4C fydd yn ei hadnabod fel trac sain i hysbysebion arlwy Haf y sianel.

A dyma ragflas arbennig o un o ganeuon eraill yr albwm, ‘Tlws’ – gallwch wrando arni’n llawn ar Ap Golwg yr wythnos hon:

Cerddoriaeth ‘ysgafnach’

Yn ôl Ynyr Roberts, sydd wedi dod yn dad i ddau o blant ers i’r band ryddhau eu halbwm diwethaf, mae teimlad gwahanol i’r caneuon newydd.

“Wnaeth yna rywun ddweud bod yr albym yma’n teimlo’r ysgafnach na’r dair albym flaenorol, “ meddai Ynyr Roberts, “a dw i’n siŵr ein bod ni yn mynd yn llai dwys.”

“Mae lot o’r caneuon yn rhai hapus…wrth i ni recordio, roeddan ni’n sylwi bod lot o gordiau’r albym yn rhai major.

“Doedden ni ddim wedi gwneud hynny’n bwrpasol, ond mae’n rhaid bod bywyd yn braf…am bo’ fi fwy bodlon fy myd does dim rheswm i sgwennu rhywbeth angsti.”

Gallwch ddarllen y cyfweliad llawn â Brigyn yn Golwg yr wythnos hon, ac mae clip llawn o’r gân ‘Tlws’ ar Ap Golwg.