Ydi Salem gan Endaf Emlyn yn un o'r clasuron? (llun: Sion Richards)
Ar ôl pleidlais ddiweddar i ganfod rhestr ’10 albwm gorau’ 10 mlynedd cyhoeddi cylchgrawn Y Selar, Owain Schiavone sy’n holi beth sy’n gwneud albwm yn glasur …

Wrth i ni baratoi i ddathlu 10 mlynedd ers dechrau cyhoeddi’r cylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg cyfoes, Y Selar, mi gefais y syniad o wneud atodiad yn y rhifyn dathlu’n cynnwys nifer o restrau ‘10 uchaf’ o gyfnod cyhoeddi’r cylchgrawn.

Mae’r rhestrau yma’n cynnwys y 10 record Gymraeg drytaf i ni weld yn gwerthu ar Ebay fel rhan o’n heitem Î-Bê, 10 o ddyfyniadau mwyaf cofiadwy o gyfweliadau’r cylchgrawn, a 10 artist ifanc roedden ni wedi tynnu sylw atyn nhw sydd wedi profi’n tips cywir.

Y syniad arall oedd gen i oedd llunio rhestr o’r 10 albwm gorau o gyfnod Y Selar.

Er bod y golygyddion, y cyfranwyr a’r cynnwys wedi newid tipyn dros y ddegawd, un peth sydd wedi bod yn gyson yn Y Selar ydy ein rhestr ’10 uchaf albyms’ blynyddol.

Fel rheol, mae’r rhestr wedi’i ddewis gan gyfranwyr y cylchgrawn ond llynedd penderfynwyd gofyn i’r darllenwyr bleidleisio fel rhan o bleidlais Gwobrau’r Selar, a llunio’r rhestr ar sail y canlyniadau.

Ro’n i’n reit ffyddiog y byddai modd i mi ddewis y 10 albwm gorau o’r ddegawd 2004–2014 ar sail y rhestrau blynyddol, ac adolygiadau’r cylchgrawn – wedi’r cyfan, pa mor anodd ydy dehongli pa albyms sy’n ‘glasuron’?

Reit anodd fel mae’n digwydd! Ac erbyn i mi dorri lawr i restr o 25 (gan hepgor ambell ffefryn personol gyda llaw) ro’n i’n ei chael hi’n anodd iawn torri mwy, a dyma benderfynu pasio’r byc ac agor pôl piniwn i weld beth oedd barn pobl eraill!

Penderfyniadau anodd

Doedd hi ddim yn fwriad i gynnal pleidlais gyhoeddus felly, ond fe ddaeth yn angenrheidiol o safbwynt arbed i mi golli fy mhwyll!

Yn y diwedd ro’n i’n reit falch fy mod i wedi agor y pôl piniwn gan ei fod yn amlwg wedi denu llawer o ddiddordeb gyda’n agos at 600 yn pleidleisio mewn llai nag wythnos.

Felly beth sy’n gwneud albwm yn ‘glasur’?

Debyg iawn y byddai gan bawb ateb gwahanol i’r cwestiwn yma, a bod pawb yn ystyried gwahanol recordiau’n glasuron – mae’n dibynnu i raddau helaeth ar chwaeth wrth gwrs.

Wedi dweud hynny, dwi’n weddol siŵr y byddai’r mwyafrif yn cytuno bod rhai albyms yn glasuron, beth bynnag eu chwaeth gerddorol – Gwymon, Meic Stevens; Salem, Endaf Emlyn; Y Dref Wen, Tecwyn Ifan; Mwng, Super Furry Animals; Rhiniog, Geraint Jarman; Teulu Yncl Sam, Sidan – dim ond rhai sy’n dod i’r meddwl yn syth.

Bydd y rhestr derfynol o 10 yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn nesaf Y Selar, fydd ar gael gyntaf yn gig Selar 10 yn Neuadd Fawr Aberystwyth nos Wener yma.

Dw i wrth gwrs wedi gweld y rhestr yma, ac er bod sawl ffefryn personol wedi eu hepgor (eto!), fedra i ddim dadlau gyda’r un o’r 10.

Fformiwla

Ers gweld y canlyniad, ac wrth wylio’r pleidleisiau’n cael eu bwrw i ddweud y gwir, dwi wedi bod yn holi fy hun beth sy’n gwneud i bobl deimlo bod albwm yn haeddu teitl ‘clasur’.

Fy nehongliad ydy bod rhaid i record fod yn un o dri pheth i haeddu’r fath label:

  1. Gall albwm fod yn gasgliad o ganeuon arbennig o dda a chofiadwy – felly efallai bod pedair neu bump o ganeuon mae rhywun yn eu hadnabod yn syth wrth edrych ar y rhestr traciau. Dw i’n credu bod Rhiniog gan Jarman yn ffitio i’r categori yma, ac efallai Troi a Throsi gan yr Ods yn esiampl fwy diweddar, yn ogystal ag Wyneb Dros Dro gan Gwyneth Glyn.

  1. Ar y llaw arall mae ganddoch chi’r albwm sy’n ‘gyfanwaith’, lle nad yw’r caneuon unigol efallai’n sefyll ar eu traed eu hunain cymaint, ond eto’n gweithio’n berffaith ochr yn ochr. Mae Y Bardd Anfarwol gan The Gentle Good a enillodd wobr ‘Albwm y Flwyddyn’ yr Eisteddfod Genedlaethol eleni’n disgyn i’r categori yma, a rhywbeth fel Croendenau, Steve Eaves yn gyfanwaith hyfryd yn fy marn i.

  1. Ac yn olaf, y record sy’n torri tir newydd. Salem gan Endaf Emlyn ydy’r amlycaf o’r rhain efallai – y ‘record gysyniadol’ Gymraeg gyntaf yn ôl pob tebyg, ac yn gofiadwy am y rheswm hwnnw. Mi fyswn i’n dadlau bod albwm Y Tystion, Rhaid i Rywbeth Ddigwydd, yn disgyn i’r categori yma hefyd o safbwynt tanio llif o brosiectau hip-hop Cymraeg.

Wrth gwrs, dim ond fy theori bersonol i ydy hyn, ac mae’n debyg bod gan bawb eu rhesymau eu hunain i deimlo fod record yn arbennig.

Wedi dweud hynny, yr hyn sy’n ddadlennol o weld y rhestr o 10 sydd wedi dod i’r brig ydy eu bod nhw, heblaw am un neu ddau oedd yn agos iawn, yn weddol glir o’r gweddill a bod hynny’n awgrymu bod rhywbeth yn gyffredin rhyngddyn nhw.

Bydd modd i chi weld y rhestr derfynol yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan ddydd Gwener yma, i weld os ydach chi’n cytuno â barn y mwyafrif!