Rhys Evans
Ar ôl gaeaf hir a gwanwyn oer, rydw i (fel llawer) yn edrych ymlaen yn arw at haul yr haf a’r gwyliau cerddorol sy’n dod ynghyd ag ef.

Rwy’ hyd yn oed (ar hyn o bryd) yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o gysgu mewn pebyll oer a chiwio am doiledau! Yn anffodus, nes i fethu llawer o’r gwyliau cerddorol yng Nghymru’r llynedd  ac felly yn benderfynol o beidio â’u methu eleni.

Maes B (1-7 Awst)

Mae’r ŵyl gyntaf rwy’n edrych ymlaen at yn cwympo ar ddechrau mis brysur iawn i wyliau cerddorol yng Nghymru.

O 1-7 Awst, byddaf yn mwynhau’r gerddoriaeth orau sydd gan Gymru i gynnig ym Maes B. Rwy’ wedi bod yn mynd i Faes B ers tua chwe blynedd, fi’n credu ac wedi mwynhau pob un.

Mae’r gerddoriaeth amrywiol yn cydblethu’n dda â’r awyrgylch cyfeillgar sydd ar gynnig ac yn ogystal â gigs yn y nos, mae’n bosib mwynhau llawer o grwpiau ar faes yr Eisteddfod yn y dydd.

Ymhlith y rheiny sy’n chwarae’r flwyddyn hon mae Sŵnami, Yr Ods a Bandana. Yn bersonol, y grŵp rwy’n edrych ymlaen fwyaf at eu gweld yw I Fight Lions.

Dw’i erioed wedi gweld y grŵp o Eryri yn fyw ond yn hoff iawn o’u cerddoriaeth ac felly’n edrych ymlaen at gael gweld eu perfformiad byw.

Gŵyl Y Dyn Gwyrdd (14-17 Awst)

Ar ôl wythnos o saib yn dilyn Maes B, byddaf yn mentro i Ŵyl Y Dyn Gwyrdd i fwynhau’r awyrgylch hamddenol a’r gerddoriaeth hudol sydd ar gynnig.

Dw’i erioed wedi bod i’r ŵyl yma ond wedi clywed pethau da amdano ac felly’n argymell pawb i fentro i’r gerddoriaeth rhwng 14-17 Awst.

Y grwpiau rwy’n edrych ymlaen at wylio yw Caribou, Policia, Kurt Vile and the Violators, Speedy Ortiz ac yn fwy na dim, Neutral Milk Hotel.

Rwy’ wedi bod yn ffan mawr o’r band o America ers rhai blynyddoedd ac fe fydd hi’n brofiad a hanner i gael gweld y band yn chwarae ei gerddoriaeth indie-acoustic yn fyw.

Mae’r Dyn Gwyrdd hefyd yn cynnig llwyfan i grwpiau Cymraeg gael chwarae i gynulleidfaoedd eangach. Y flwyddyn hon 9 Bach, Georgia Ruth a’r Gentle Good fydd ymhlith y grwpiau Cymraeg.

Gŵyl Gardd Goll (26-27 Awst)

Yr ŵyl nesaf ar fy ‘checklist’ haf yw Gŵyl Gardd Goll. Yn debyg i’r Dyn Gwyrdd, dw’i erioed wedi bod ond wedi clywed dim ond pethau neis am yr ŵyl ac felly edrych ymlaen at fynd am y tro cyntaf.

Siom oedd methu arwr personol i mi, Willy Mason, y flwyddyn ddiwethaf felly braf yw cael gweld bod y lein-yp yr un mor dda blwyddyn yma.

Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r Joy Formidable oherwydd mae wedi bod yn rai blynyddoedd ers i mi eu gwylio.

Rwy’ hefyd yn edrych ymlaen at wylio Geraint Jarman, Yucatan a Cian Ciaran. Rwy’ wedi clywed llawer am setiau byw Ciaran ac yn edrych ymlaen at wylio ei set fyw.

Gŵyl Gwydir (29-30 Awst)

O un Super Furry i’r llall – uchafbwynt lein-yp gwych Gŵyl Gwydir eleni, heb os nac oni bai, fydd Gruff Rhys.

Es i i wylio ffilm newydd Gruff, American Interior, rai wythnosau yn ôl ac ers hynny wedi bod yn chwarae’i albwm newydd yn ddi-baid.

Pleser fydd cael gweld y dyn yn perfformio’r caneuon yn fyw. Mae’r ŵyl yn addo i fod yn un o wyliau mwyaf hwyliog yr haf ac ymhlith y grwpiau eraill sy’n perfformio rwy’n edrych ymlaen at wylio Candelas a Sen Segur.

Gŵyl Rhif 6 (5-7 Medi)

Yr ŵyl olaf sydd gen i ar fy rhestr yw Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ŵyl wedi datblygu i fod yn un boblogaidd iawn ac yn aml yn cael ei restru fel un o wyliau gorau’r flwyddyn.

Rwy’n edrych ymlaen at wylio Beck a Los Campesionos! ac yn argymell i bobl fentro i’r llwyfannau Cymreig i wylio Mr Phormula, Kizzy Crawford a’r Pencadlys.

Gyda golygfa hyfryd a chyfuniad braf o gerddoriaeth wahanol, Gŵyl Rhif 6 yw’r ffordd orau o orffen yr haf cyn mynd yn ôl i weithio.

Mae yna, felly, digon o wyliau i fwynhau’r haf yma. Am nawr, i gyd sydd i wneud yw gobeithio bod y tywydd yn gwella a sicrhau na welwn ni ‘Glasto 2005’!