Y Rhacs ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd
Mi fyddai’n onest o’r dechrau, dwi ddim yn berson ‘Steddfod mawr yn yr ystyr traddodiadol.

Mae fy mhrofiad ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn dechrau a gorffen gyda fel rhan o barti cyd-adrodd ddaeth yn ail yn y Steddfod gylch tua 1990.

Wedi dweud hynny, dwi’n credu bod eisteddfodau – boed yn rai lleol, neu genedlaethol, yn bwysig i ddiwylliant Cymreig ac yn cynnig cyfleoedd arbennig i bobl ifanc fagu hyder.

Dwi wedi clywed sawl un yn dweud y byddai Simon Cowell yn cael ei syfrdanu gan dalent gwirioneddol petai o’n ymweld ag Eisteddfod yr Urdd am un diwrnod, a dwi’n cytuno efo hynny. Efallai wir mai nid ar lwyfan y pafiliwn y byddai’n dod ar draws y dalent honno bellach chwaith.

Ymylol

Er nad ydw i’n foi Steddfod pan ddaw at y cystadlu, dwi yn hoffi ochr gymdeithasol eisteddfodau a’r digwyddiadau a gweithgarwch ymylol yn arbennig.

Roedd yn braf felly i weld cymaint o gerddoriaeth gyfoes ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala wythnos diwethaf – rhywbeth oedd yn brin iawn rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl.

Rhaid i mi roi clod i Eisteddfod yr Urdd, a Chyngor y Celfyddydau am noddi’r llwyfan perfformio ar y maes am ddatblygu presenoldeb bandiau cyfoes ar y maes yn raddol.

Dwi’n cofio trafod y syniad o roi ambell fand cyfoes ar lwyfan perfformio’r Eisteddfod efo Steffan Prys o’r Urdd nôl ar ddechrau 2011 – Steff yn y broses o drefnu gig Aelwydydd yn ystod Eisteddfod Abertawe, ac yn awyddus i’r Selar lenwi cwpl o slotiau ar lwyfan perfformio’r maes.

Mi wnaethon ni lenwi’r cwpl o slotiau hynny ar faes Steddfod Abertawe, ac adeiladau ar hynny gyda ‘Slot Selar’ dyddiol yng Nglynllifon yn 2012, gydag ambell fand cyfoes arall yn ymddangos ar yr amserlen nawr ac yn y man.

Erbyn Eisteddfod Bala wythnos diwethaf, roedd yna o leiaf tair awr o gerddoriaeth gyfoes ar y llwyfan perfformio pob dydd.

Yn ogystal â hynny roedd ‘na artistiaid i’w gweld yn gwneud setiau acwstig mewn amryw stondinau ar y maes, ac mae’r Eisteddfod wedi cyflwyno cystadlaethau i fandiau roc a phop yn eu rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf.

Un band ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth i fandiau roc am yr eilwaith yn olynol eleni oedd ‘Y Storm’ o Lanuwchllyn, a hynny mewn cystadleuaeth i fandiau blwyddyn 6 a iau – plant oedran cynradd!  Cadwch olwg ar rhain da chi.

Mae’n werth gwrando ar Steffan Prys yn trafod y gystadleuaeth a phwysigrwydd cael bandiau cyfoes ar y maes ar ein pod Steddfod ddydd Mawrth diwethaf.

Mewn gŵyl sy’n denu cymaint o bobl ifanc i un safle, mae’n gyfle gwych i’w cyflwyno i’r bandiau ac artistiaid cyfoes o safon uchel sydd gennym yn canu’n y Gymraeg. Dwi’n credu bod Yr Urdd, a rhai unigolion yn yr Urdd yn arbennig, wedi mynd ati i sicrhau eu bod nhw’n gwneud hynny, a dwi’n talu teyrnged iddynt am yr ymdrech.

Y gobaith yw bod rhai o’r bobl ifanc sydd ar y maes yn dod ar draws cerddoriaeth Gymraeg am y tro cyntaf, ac yn dechrau cymryd diddordeb a mynd i gigs, gwrando ar C2 a phrynu recordiau.

Mae’n anodd iawn monitro llwyddiant hyn wrth gwrs, ond byddai’n ddiddorol iawn gwybod. Efallai ei fod yn swnio fel cliché a pheth amlwg i’w ddweud, ond bandiau ifanc a chynulleidfa ifanc sy’n mynd i sicrhau dyfodol cerddoriaeth Gymraeg gyfoes a rhaid cysylltu â’r gynulleidfa honno ym mha bynnag ffordd bosib.

Fideo: Mellt yn perfformio ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd Boncath yn 2013.