Breichiau Hir, un o'r bandiau â chynnyrch newydd
Mae’r sŵn yn cynyddu ym myd y bandiau, meddai Owain Schiavone …

Mi wnes i ysgrifennu blog nôl ym mis Rhagfyr yn sôn am y nifer uchel o albyms Cymraeg cyfoes oedd wedi’i rhyddhau yn ystod 2013.

Ar y pryd ro’n i’n y broses o lunio rhestr o gynnyrch oedd wedi’i ryddhau yn 2013 fyddai’n gymwys ar gyfer categorïau ‘Record Hir’ a ‘Record Fer’ orau Gwobrau’r Selar, ac roedd hyd y rhestr recordiau hir yn arbennig o gadarnhaol.

Gyda 2013 yn flwyddyn mor gynhyrchiol, ro’n i’n hanner disgwyl i 2014 fod yn flwyddyn dawelach o ran cynnyrch newydd, ond mae’r dystiolaeth yn awgrymu fel arall ar hyn o bryd.

Adolygu

Rhestr gynnyrch ar gyfer Y Selar sydd ar fy meddwl i eto wrth ddechrau ysgrifennu’r blog yma. Rydan ni yn y broses o baratoi ail rifyn y flwyddyn o’r Selar, fydd allan erbyn wythnos Eisteddfod yr Urdd ddiwedd mis Mai.

Her reolaidd efo pob rhifyn o’r cylchgrawn ydy casglu’r holl gynnyrch newydd sydd wedi’i ryddhau’n ddiweddar er mwyn eu hadolygu. Er bod rhai unigolion yn adolygu ambell beth ar amryw gyfryngau, Y Selar ydy’r unig gyhoeddiad sy’n adolygu cynnyrch Cymraeg mewn swmp, ac rydan ni’n trio adolygu popeth sy’n cael ei ryddhau’n ffurfiol o leiaf.

Dwi’n dweud bod hyn yn her am sawl rheswm. Oherwydd mai sin reit anffurfiol ydy’r sin Gymraeg, heb labeli mawr gyda chynlluniau marchnata manwl, mae rhywun yn tueddu i ddod ar draws newyddion am gynnyrch newydd yn hytrach na chael eu bwydo gyda dyddiadau rhyddhau fisoedd ymlaen llaw.

Erbyn hyn hefyd wrth gwrs, mae sawl fformat o ryddhau – CD, feinyl, digidol i’w prynu a hyd yn oed digidol am ddim yn cael eu hystyried fel dulliau rhyddhau ffurfiol.

Yna mae’r broses o gael gafael ar y cynnyrch i’w basio ymlaen i’r adolygwr ac ati ond stori arall ydy honno.

Cynnyrch o bob math

Fel arfer, mae’r adolygiadau cynnyrch newydd rhwng 6 a 12 mewn nifer – 12 ar ddiwrnod da iawn! Mae’r cyfanswm o 18 sydd ar y rhestr hyd yn hyn ar gyfer y rhifyn nesaf yn anarferol iawn felly, ac mae bron yn sicr bod un neu ddau o bethau wedi llithro trwy’r rhwyd.

Mae rhywun yn disgwyl llwyth o gynnyrch newydd erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n dal i fod yn rhyw fath o binacl ar gyfer y flwyddyn gerddorol gan fod cymaint o gyfleoedd i berfformio. Ond fel arfer, does dim yr un swmp o gynnyrch newydd erbyn Eisteddfod yr Urdd.

Roedd tudalen adolygiadau’r rhifyn diwethaf o’r cylchgrawn, a gyhoeddwyd ddiwedd Chwefror yn reit ffrwythlon hefyd, gyda 10 adolygiad.

Mae wedi bod yn hanner cyntaf arbennig o dda i’r flwyddyn felly.

Byddai’r sinig efallai’n awgrymu mai hwylustod rhyddhau senglau ad hoc yn ddigidol sy’n rhannol gyfrifol am hyn, ond mae’r amrywiaeth fformat cynnyrch diweddar yn profi fel arall.

Oes, mae ‘na senglau am ddim gan fandiau fel Breichiau Hir a Fleur de Lys ond yn achos Breichiau Hir rydan ni sôn am ymgyrch hyrwyddo fwriadol o ryddhau cyfres o dair sengl, a hynny wedi codi statws y grŵp. Gyda llaw, dwi’n cynnwys tair sengl Breichiau Hir fel un eitem yn y rhestr o 18.

‘Byth Yn Agor’ gan Breichiau Hir:

Mae ‘na senglau eraill i’w lawr lwytho am bris ar y rhestr, ond mae ‘na hefyd saith albwm ‘caled’ gan 9Bach, Llwybr Llaethog, Mr Phormula, Al Lewis, I Fight Lions, Bur Hoff Bau a Saron, yn ogystal ag EPs gan Rebownder a Gramcon.

Teg dweud bod rhyddhau’n ddigidol yn hwyluso pethau i artistiaid felly, ond nid dyna’r stori lawn o bell ffordd gyda digon o gynnyrch caled hefyd.

‘Lliwiau’ gan 9bach:

Mae’n sicr bod parodrwydd labeli bach fel Klep Dim Trep, I Ka Ching a Peski i ryddhau deunydd newydd yn help, yn ogystal â rhai artistiaid yn rhyddhau’n gwbl annibynnol.

Bydd yn ddiddorol gweld os ydy ail hanner y flwyddyn mor gynhyrchiol a’r gyntaf – melys moes mwy dd’weda ’i.