Mae band Y Reu ar fin rhyddhau dwy sengl, sef Darnau Bach a Haf, fydd ar gael i’w lawrlwytho yn ddigidol o ddydd Mercher.

O Ddyffryn Nantlle y daw’r band yn wreiddiol, ac maen nhw wedi dod yn adnabyddus iawn yn y sin gerddoriaeth Gymraeg am berfformiadau byw egnïol iawn sydd wedi’u gwneud yn un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y sin.

Mae Y Reu eisoes wedi rhyddhau ei senglau cyntaf, Diweddglo a Symud Ymlaen, a gafodd eu henwebu yng Ngwobrau Y Selar 2013 am ‘Y Record Fer Orau’ llynedd.

Dywedodd y label  Ikaching, sydd yn rhyddhau’r ddwy sengl newydd ar yr un CD, fod Y Reu am ddod ag agwedd newydd i’r sin gerddoriaeth Cymraeg.

“Bwriad Y Reu yw ‘i greu sŵn cyfoes newydd yn y Sin Gymraeg, ac i fod yn llais i bobl ifanc Cymru,” meddai’r label.

Roedd y ddwy yn senglau’r wythnos ar C2 ychydig wythnosau’n ôl a bydd y band hefyd yn parhau i gigio yn y misoedd nesaf.

Bydd manylion pellach ar sut i gael gafael ar y senglau ar wefan y label, www.ikaching.co.uk, ble bydd hefyd modd gwrando ar y caneuon.