Uwch olygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, Owain Schiavone, sy’n dewis ei ddeg hoff gân o’r flwyddyn ddiwethaf.

Mae wedi bod yn flwyddyn hynod gynhyrchiol o ran cerddoriaeth Gymraeg newydd, ac er nad yw’r broses o ddewis fy neg uchaf caneuon y flwyddyn byth yn hawdd, mae wedi bod yn her a hanner eleni.

Wrth edrych ar y rhestr, dwi’n methu credu nad ydy ‘Llewni’ gan H. Hawkline ‘Symud Ymlaen’  gan Y Reu na’r anhygoel ‘Mae Pawb yn Haeddu Glaw yn Waeth na Fi’ gan Y Pencadlys yna! Ond eto fyth, fedrai ddim yn fy myw â ffeindio ffordd i’w gwasgu nhw mewn!

Mae ‘na ddwy neu dair o ganeuon eraill dwi’n teimlo’r un mor euog ynglŷn â nhw, ond och! Os mai rhestr o ddeg sydd i fod, rhaid tynnu’r llinell yn rhywle, a dyma dynnu fy llinell i…

10. Chwyldro – Gwenno

Cân orau Gwenno hyd yn hyn yn fy marn i. Melodig, clyfar a chân gyda neges glir. Mae Gwenno’n datblygu sŵn pop electronig sy’n hollol unigryw ac yn gyffrous dros ben – dim llai na chwyldro efallai, a heb os mae ei chalon ynddo.

9. Nofio Trymbelydrol – Sen Segur

Cafodd hon ei rhyddhau ar EP y grŵp o Ddyffryn Conwy reit ar ddechrau’r flwyddyn, a doedd dim cymaint â hynny o sylw i’r record gyda bod streic cerddorion Cymru yn ei anterth bryd hynny. Dyma seicadelia Penmachno ar ei orau.

8. Pwyso a Mesur – Gwyllt

Dyma chi gân sy’n taro deuddeg o’r gwrandawiad cyntaf, ac, hyd yma beth bynnag, yn dal i swnio cystal ar ôl cant neu fwy o wrandawiadau. Grŵp newydd, ond sŵn cyfarwydd rhywsut – mae’r alaw yn hyfryd, a’r llinynnau yn epig. Gwaith da.

7. Etrai – Georgia Ruth Williams

Mae’n gas gen i ddeud nad ydw i’n ffan mawr iawn o’r delyn fel rheol, yn enwedig wedi’i gymysgu efo cerddoriaeth gyfoes … ond mae ‘na rywbeth arbennig iawn a hudol yn y ffordd mae Georgia Ruth yn ymdrin â’r offeryn. Enillodd ei halbwm gwych, Week of Pines, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn yr hydref ac i mi Etrai ydy’r gân fwyaf cofiadwy ar y casgliad – prydferth iawn.

6. Anifail – Candelas

Mi wnes i osod ‘Symud Ymlaen’ gan Candelas ar frig y rhestr yma llynedd, ac er bod honno ar albwm cyntaf y grŵp hefyd, ‘Anifail’ ydy’r gân sydd wedi rheoli’r tonfeddi yn 2013. Roc budr yn cael ei yrru gan riff gitâr caled a drymio pwerus – digon i ddychryn anifeiliaid y nos.

5. Sgwennu Stori – Gildas

Ro’n i’n hoff iawn o albwm cyntaf Gildas, Nos Da, ac wrth fy modd i weld ei ail gasgliad Sgwennu Stori yn ymddangos eleni. Y gân sy’n rhannu enw’r albwm ydy’r orau i mi, a’r ffordd mae llais Arwel Gildas a Greta Isaac yn asio’n dod ag ias i’r cefn.

4. Casi Wyn – Hardd

Er i Casi ryddhau EP ynghynt yn y flwyddyn, rhyddhawyd ‘Hardd’ ar gasgliad aml-gyfrannog O’r Nyth yn Rhagfyr. Mae pawb yn gyfarwydd â llais clasurol peraidd Casi Wyn, ond yma mae’n cyfuno hynny gyda synau  electroneg i greu un o draciau mwyaf trawiadol y flwyddyn.

https://nyth.bandcamp.com/track/hardd-2 

3. Gwreiddiau – Sŵnami

Band sydd wedi blasu llwyddiant rhyfeddohttps://nyth.bandcamp.com/track/hardd-2l dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a’r EP Du a Gwyn yn cadarnhau safon y bois o Feirionydd. Mae ’Gwreiddiau’ yn dangos Sŵnami ar eu gorau – gitars a drymio can milltir yr awr a llais hysgi Ifan yn cael ei ymestyn i’r eithaf.

2. Haul y Gorllewin – Yr Ods

Mae albwm Llithro yn un o oreuon y flwyddyn heb unrhyw amheuaeth – mae’n gyfanwaith sy’n dangos aeddfedrwydd Yr Ods. ‘Gad Mi Lithro’ ydy’r anthem, ond ‘Haul y Gorllewin’ a’i symlrwydd a sŵn bach cwyrci ydy fy ffefryn personol.

1. Elin – Yr Eira

Dwi wedi pendroni tipyn dros hyn … fedra’i roi cân gan fand newydd sbon, sydd heb ryddhau unrhyw gynnyrch eto hyd yn oed, yn rhif un y rhestr yma? A bod tro dwi’n dod i’r casgliad bod hon yn gân mor dda nes bod ei bod yn amhosib peidio! Mae’r adeiladwaith yn y gân yn arbennig, a’r cyfan yn cyrraedd uchafbwynt yn y gytgan wych. Tiiiiwn!

Croeso i chi anghytuno â mi yn y sylwadau isod wrth gwrs, a chofiwch fod modd pleidleisio dros ‘Gân Orau 2013’ Gwobrau’r Selar ar hyn o bryd.