Sam James
Mae chwarae gyda Blaidd “yn fwy o hwyl” na’i fandiau eraill yn gynharach yn ei fywyd, gan gynnwys yr Heights a’r Poppies, yn ôl Sam James.

Mae’r band wrthi’n paratoi i ryddhau eu EP newydd, ‘Ma Fe Gyd Yn Wir’, ac fe ddywedodd Sam James mewn cyfweliad gyda Golwg fod y band wedi cael tipyn o sbort wrth restru’u pechodau o’r gorffennol yn y caneuon.

Pedwar trac sydd ar yr EP, a gafodd ei gynhyrchu gan Meic Stevens, a Sam James yn cyfaddef iddo ef ac aelodau eraill y band, y brodyr Gary Price a Roy Price Junior, gael eu trafferthion wrth weithio gyda’r eicon roc.

Ond mae’r EP bellach wedi’i orffen, a’r band yn bles gyda sŵn terfynol y traciau – er iddyn nhw golli llawer o’r dubs oedd wedi’u recordio ar eu cyfer!

“Mae fe ‘bach llai pync na’r sesiwn cyntaf wnaethon ni i Radio Cymru,” meddai Sam James, “Mae’n swnio’n reit amrwd nawr, sy’n dda dwi’n credu.

Dyma glip o gyfweliad Sam James gyda Golwg, yn sôn am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r enw, a gweithio gyda Meic Stevens:

Mae cyfweliad Sam James yn llawn i gael ar Ap Golwg, gan gynnwys pam y treuliodd un Nadolig yn y celloedd, y ffrae gyda Meic Stevens, a mwy am y traciau, chwarae yn Llydaw, y band – ac esboniad am ei newydd wedd!

Gallwch ddarllen adolygiad o ‘Ma Fe Gyd Yn Wir’ gan flogwraig cerddoriaeth golwg360, Miriam Elin Jones, ar gyfer rhifyn Rhagfyr y Selar yma.

Gallwch hefyd ddarllen cyfweliad Sam yn Y Babell Roc yng Nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.