Lois Gwenllian sydd wedi bod yn gwrando ar albwm yr artist electroneg R. Seiliog ar gyfer Y Selar

’Dw i wedi clywed llawer o sôn am R. Seiliog ond erioed wedi ei glywed tan i mi dderbyn Doppler.

Mae’r albwm yn agor gyda thrac byr electronig sy’n swnio fel bod rhywun yn chwarae xylophone mewn twnnel carthffosiaeth.

Yn syth, gwyddwn fod hyn am fod yn brofiad cerddorol newydd i mi.

Un o fy hoff draciau yw’r ail, ‘Ostisho’, sy’n swnio fel cân a fyddai’n cael ei defnyddio ar deitlau agoriadol cyfres deledu Americanaidd.

Nid dyna’r rheswm ’dw i’n ei hoffi hi gymaint, ond yn hytrach, oherwydd y cyffro a’r stori sy’n datblygu ynddi. Mae hyn ychydig yn wahanol i rai o’r traciau eraill sydd ar brydiau yn swnio’n ailadroddus.

Dyna steil R. Seiliog o’r hyn dw i wedi’i glywed (mi wnes i fy ngwaith cartref wedyn a gwrando ar Shuffles EP) a’r hyn sy’n gwneud ei sŵn mor unigryw.

Ar ôl gwrando ar Doppler unwaith roeddwn i o’r farn mai albwm i’w chlywed yn fyw oedd hi.

Ond erbyn hyn dw i’n dechrau gwerthfawrogi beth ydy R. Seiliog ac yn clywed rhywbeth newydd pob tro.

Yng nghanol yr holl loops ailadroddus mae ’na felodïau gwerth eu clywed a chyffyrddiadau electronig sy’n eich tywys i fyd rhythmig, arallfydol. Ac mae’n fyd reit braf i fod ynddo…

7/10

Mae hwn yn adolygiad o rifyn mis Rhagfyr 2013 o gylchgrawn Y Selar. Mae modd darllen fersiwn digidol o’r rhifyn yma.