Gwenno
Bydd y gantores Gwenno Saunders a Patricia Morgan o ‘Datblygu’ yn cydweithio gyda’i gilydd mewn Sesiwn Unnos arbennig i Radio Cymru ar y 28 Rhagfyr eleni.

Cyhoeddwyd y newyddion ar raglen C2 Lisa Gwilym neithiwr, gyda’r disgwyl y bydd y ddwy artist yn gweithio ar draciau gyda’i gilydd yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn nesaf.

Mae gan Gwenno albwm newydd ar y gweill ar gyfer 2014 eisoes, gyda’r sengl cyntaf ‘Chwyldro’ eisoes wedi’i rhyddhau a dwy arall ar y ffordd cyn y flwyddyn newydd.

Ac mae hi eisoes yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Pat Morgan, oedd yn aelod o un o’r grwpiau Cymraeg mwyaf arloesol erioed gyda David Edwards a T Wyn Davies.

Daeth Datblygu yn adnabyddus yn yr 1980au a dechrau’r 90au am eu cerddoriaeth tanddaearol a fu’n ysbrydoliaeth i nifer o fewn y sin roc Gymraeg ers hynny.


Pat Morgan a David Edwards ar glawr casgliad 'Peel Sessions' Datblygu
“Ofn trychineb!”

Dywedodd Gwenno wrth Golwg360 ei bod hi’n edrych ymlaen yn arw at y profiad o recordio gyda Pat, ond nad oedd hi’n siŵr sut fyddai pethau’n gweithio eto.

“Gofynnodd Gareth Iwan o C2 os oedden i awydd gwneud, ac ro’n i’n meddwl y bydde fe’n syniad da,” meddai Gwenno.

“Ond dwi’n poeni ychydig bach hefyd – beth os fydd e’n drychineb?!

“Ro’n i’n awyddus i drio pethau gwahanol a gweithio gyda rhywun oedd efo profiad, felly nes i feddwl am Pat, ac yn ffodus fe wnaeth hi gytuno – dwi wir yn gyffrous am y peth!

“Dwi wastad wedi hoffi’r darnau piano mae Pat ‘di neud yn enwedig, mae hi’n arwres i bawb. Mae ganddi gefndir mor eang yn gerddorol, ac mae hi wedi gwneud lot o arbrofi.”

‘Anti-cerddorol’

Yn ystod y Sesiwn Unnos bydd y ddwy artist yn cael noson i gydweithio ar gerddoriaeth gyda’i gilydd a cheisio creu hyd at bedwar trac EP newydd erbyn y bore – ffurf arloesol ar recordio deunydd cerddoriaeth y mae C2 wedi arbrofi â hi yn y gorffennol.

Ac fe fydd strwythur y sesiwn yn her newydd i Gwenno wrth iddi hi a Pat Morgan geisio cyfuno arddulliau cerddorol gwahanol i greu’r traciau.

“Bydd gan bawb farn gwahanol ar y syniadau fydd yn dod o’r sesiwn,” meddai Gwenno. “Pwy a ŵyr beth ddaw allan ohoni?

“Nes i feddwl y byddai’n neis neud rhywbeth Faust-aidd?, rhywbeth anti-cerddorol fel’na. Mae’n siŵr neith o droi allan yn rili neis a thaclus, ond bysa fo’n neis cael arbrofi efo rhywbeth!

“Ma’r syniad o Unnos yn ffantastig, mae wastad yn dda i gydweithio efo pobol wahanol a rhoi dy hun mewn sefyllfa newydd – mae hynny’n rywbeth eitha’ sylfaenol dylech chi fod yn neud.”