Y Niwl
Owain Schiavone sy’n trafod cyfle posib i fandiau Cymraeg godi arian ar gyfer rhyddhau cynnyrch.

Yn fy mlog diweddaraf dair wythnos yn  ôl mi wnes i gyfeirio at y ffaith fod Y Niwl yn defnyddio dull diddorol iawn er mwyn codi arian i recordio eu halbwm newydd.

Mae Y Niwl yn defnyddio system Pledge Music ar gyfer eu prosiect diweddaraf.

Mae’r system yn dilyn egwyddor ‘crowdfunding / crowdsourcing’ sy’n dod yn fwyfwy amlwg y dyddiau yma.

Y syniad yn gryno ydy fod ffans yn gallu prynu cynnyrch newydd gan artist cerddorol cyn i’r cynnyrch hwnnw gael ei greu – y cefnogwyr sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr fod prosiect newydd yr artist yn cael ei wireddu i bob pwrpas.



Cyfle

Dwi’n hoff iawn o egwyddor y system yma mewn sawl ffordd ac yn ei weld fel cyfle ar gyfer nifer o artistiaid y sin Gymraeg sy’n ei chael hi’n anodd recordio a rhyddhau eu cerddoriaeth trwy labeli traddodiadol.

Mae’r cyfleoedd i artistiaid Cymraeg ryddhau gyda label cydnabyddedig wedi crebachu dros y blynyddoedd diwethaf.

Er tegwch i labeli, mae’r hinsawdd a’r ffordd mae cerddoriaeth yn cael ei brynu’n golygu ei bod yn anoddach iddynt gymryd siawns ar artistiaid. Mae pwysau arnyn nhw fel busnesau i ryddhau cynnyrch maen nhw’n reit sicr fydd unai’n gwerthu llawer o unedau, neu’n cael ei ddefnyddio’n aml ar y radio a’r teledu gan sicrhau incwm breindaliadau.

Mae mwy a mwy o artistiaid felly’n gorfod troi at geisio rhyddhau cynnyrch yn annibynnol, yn arbennig bandiau newydd sy’n rhyddhau eu cynnyrch am y tro cyntaf o bosib. Wrth gwrs, i’r artistiaid hynny mae arian yn brin gan nad ydyn nhw efallai’n gallu sicrhau cymaint o gigs, ac arian o ymddangosiadau teledu, radio … sy’n dod yn haws ar  ôl cyhoeddi cynnyrch – deilema’r iâr a’r wy go iawn, chwedl y Sais!

Gall system crowdfunding felly gynnig cyfle i’r artistiaid ennyn cefnogaeth ffans, ffrindiau a theulu er mwyn gallu rhyddhau’r cynnyrch cyntaf hollbwysig yna, ond eu bod nhw’n cael rhywbeth am eu buddsoddiad wrth gwrs.

Ar yr un pryd, mae lansio prosiect fel hyn yn gallu bod dysgu ambell wers i artistiaid ynglŷn á’r gwir am y busnes cerddoriaeth ‘ma – mae’n rhaid iddyn nhw weithio’n blwmin caled i ennill dilyniant os ydyn nhw am lwyddo, a pheidio disgwyl cyfleoedd ar blât.

Dyma ffordd i artistiaid brofi fod marchnad ar gyfer eu cynnyrch, a dangos i labeli a chyfryngau pam y dylen nhw fod yn rhoi cyfle iddynt. Mae’r dyddiau lle’r oedd modd i fand gael cytundeb gyda label dim ond gan bod nhw’n swnio’n dda wedi mynd – bellach mae’n rhaid profi fod ganddyn nhw ddilyniant, a dim ond trwy waith caled mae modd gwneud hynny.


Bromas yn cipio gwobr 'Band Newydd Gorau' Gwobrau'r Selar ym mis Mawrth eleni
Synnwyr busnes Bromas

Roedd hi’n ddiddorol darllen cyfweliad gydag un o fandiau mwyaf addawol y sin, Bromas, yn rhifyn newydd Y Selar.

Er bod y grŵp yn dweud eu bod yn awyddus i arbrofi’n gerddorol, maen nhw wedi talu sylw i’r hyn sy’n llwyddo yn y Gymraeg ac yn cydnabod fod hyn yn dylanwadu ar y math o gerddoriaeth maen nhw’n ei gyfansoddi.

Dyma fand ifanc sydd á synnwyr busnes craff mae’n ymddangos  – maen nhw’n sylweddoli fod rhaid i’w cerddoriaeth fod yn hygyrch ac apelio at y mwyafrif os ydyn nhw am enyn dilyniant. Er fy mod i’n hoffi gweld artistiaid yn arbrofi, dwi’n credu bod hyn yn bolisi doeth i grŵp ifanc sy’n dechrau ceisio creu eu marc – unwaith mae rhywun wedi adeiladu ffan-bés, yna efallai fod modd bod yn fwy arbrofol.

Mae Bromas wedi bod yn ddigon lwcus i gael cynnig rhyddhau albwm gyda label Fflach … neu tybed a’i lwc ydy hynny mewn gwirionedd?!

Boddhad buddsoddiad

Wrth gwrs, mae Y Niwl yn esiampl wahanol iawn i Bromas a bandiau eraill sy’n ceisio rhyddhau cynnyrch cyntaf. Maen nhw’n grŵp profiadol iawn sydd wedi sefydlu eu hunain, wedi ffeindio arddull sy’n llenwi bwlch a chael llawer o gyhoeddusrwydd. O ystyried hyn, byddai rhywun yn tybio fod sawl cynnig wedi bod ar y bwrdd gan labeli, ond eto mae Y Niwl wastad wedi dewis rhyddhau cynnyrch ar eu label eu hunain.

Bydd hi’n ddiddorol gweld sut hwyl fyddan nhw’n ei gael gyda’u hymgyrch Pledge Music. Mae ‘na 62 diwrnod ar ôl i fuddsoddi, ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw dipyn o ffordd i fynd nes cyrraedd eu targed.

Yn sicr dwi isho clywed eu stwff newydd nhw felly’n hunanol iawn dwi’n annog pawb arall i fuddsoddi! Tydi o ddim gwahanol i rag-archebu mewn gwirionedd, ond fod rhywun yn gallu cael y boddhad o wybod eu bod nhw wedi chwarae rhan mewn sicrhau fod record yn cael ei rhyddhau.