Bob hyn a hyn mae band yn creu darn o waith sy’n bwydo fy enaid.

Casgliad o ganeuon sy’n gorfod cael eu chwarae drosodd a throsodd, eto ag eto ag eto…taswn i’n cael punt am bob tro dw i wedi gwrando ar Greatest Hits Queen neu Rumours Fleetwood Mac, mi fedrwn ymddeol fory nesa’ a phesgi’n braf ar y bywyd bras.

Y casgliad diweddara’ i fy nharo oddi ar fy echel a throi fy myd bach ben i waered ydy dim byd llai nag E.P. gan fand ifanc o Ddolgellau.

Mae Du a Gwyn gan Sŵnami wedi sleifio drwy ‘nhwll clust a meddiannu fy mrên…

Golchi llestri, sgwennu stori, rhoi trefn ar yr ailgylchu, chwarae ffwtbol – roedd yn rhaid gwneud yr rhain oll i gyfeiliant Sŵnami neithiwr.

Dim ond ar adegau prin fel hyn, ar ôl darganfod miwsig newydd hollol, hollol gyfareddol, dw i’n cofio grym a gafael y gerddoriaeth roc.

Diolch, Sŵnami, am fy atgoffa.