Mae cyno albwm newydd ‘Doppler’ gan y prosiect electoneg  R. Seiliog wedi cael ei ryddhau heddiw.

Hwn yw ail gasgliad yr artist, Robin Edwards i roi ei enw iawn, yn dilyn yr EP ‘Shuffles’ a gafodd ei ryddhau nôl yn 2012.

Wyth cân sydd ar yr albwm, sydd wedi’i ryddhau gan label Turnstile Music, ac am y diwrnod cyntaf yn unig mae modd prynu’r record finyl am £6. Mae’r casgliad hefyd ar gael i wrando arno ar Soundcloud.

Record ‘fyw ac onest’

“O ran steil mae Doppler fel stiwdio krautpop, efo elfennau eitha’ cryf o gynhyrchu electroneg, ‘drone’ a cherddoriaeth arbrofol,” meddai Robin Edwards.

“Nes i drio cadw’r broses yn eitha’ creadigol rhydd ac mor ddi-sialens a phosib, gan obeithio y bysai’n rhoi rhyw deimlad byw a gonest i’r record.”

Mae’r albwm newydd hefyd yn ychydig o newid cyfeiriad o ‘Shuffles’, gyda’r ddau’n eitha’ gwahanol o ran offerynnau a sain, “ond mae’r ‘drones’, ‘loops’ a ‘synths’ yn ôl ac yn chwarae rhan fawr yn Doppler hefyd.”

Ers rhyddhau Shuffles, mae’r rhan fwyaf o gigs R.Seiliog wedi cynnwys band gyda Huw Gwilym Evans yn chwarae gitâr fas, a Rhys Edwards ar y drymiau, ac yn ôl Robin mae wedi dylanwadu ar sain Doppler.

Gwerthfawrogi record finyl

Roedd penderfyniad Turnstile i ryddhau’r record ar finyl, fel ag y gwnaed gyda Peski a ‘Shuffles’, hefyd yn un pwysig i Robin.

“O safbwynt personol, rydw i’n teimlo ’mod i o bosib yn rhoi gwrandawiad mwy teg os ydw i ‘di mynd i’r drafferth o edrych yn fanwl ar y gwaith celf, darllen y nodiadau, tynnu’r record allan a’i roi ar y troellfwrdd.

“Mae’n fwy o achlysur na chlicio ffeil a gwylio dot yn trafaelio ar hyd llinell-amser. Ond mae digidol yn grêt hefyd!”

Unwaith eto, Siôn Alun sydd wedi dylunio clawr yr albwm, ac mae’r ddau ŵr o Ddyffryn Clwyd yn amlwg yn mwynhau cwmni’i gilydd.

“Dwi’n hoff iawn o waith Siôn, a ‘deni ’di bod yn ffrindiau da ers blynyddoedd,” meddai Robin, “felly mae’r cydweithio yn rhwydd gan ei fod o’n dallt fy ngweledigaeth.”

Gallwch gael gafael ar yr albwm o wefan Turnstile Music.