Bu Owain Schiavone yn gwrando ar gasgliad newydd o ganeuon cynnar Datblygu sydd wedi’i ryddhau gan Ankst Musik, er mwyn ei adolygu yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn cerddoriaeth
Y Selar.

Mae’n siŵr gen i mai Datblygu ydy un o eiconau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg. Ymwybodol o hynny neu beidio, mae pob un o’n hartistiaid cyfredol ni wedi’i dylanwadu arnynt gan y grŵp yma.

Rhyddhaodd AnkstMusik gasgliad Datblygu 1985-1995 ar ddiwedd y mileniwm, yn cynnwys holl ganeuon amlycaf y grŵp ac yn hanfodol i unrhyw gasgliad cerddoriaeth Gymraeg. Ond, roedd Datblygu cyn hynny – wedi ei ffurfio gan Dave a T. Wyn Davies ym 1982.

Mae’r casgliad newydd yn cynnwys y 5 casét a ryddhawyd gan Datblygu ar label Neon ac mae’n gofnod hollbwysig  o gyfnod cynnar y grŵp.

Tydi’r traciau yma ddim mor hygyrch â rhai diweddarach Datblygu … ac mae hynny’n dweud rhywbeth! Mae’r gwrandawiad cyntaf yn un anodd, ond mae’n werth dyfalbarhau a gwrando eilwaith a theirgwaith er mwyn dechrau gwerthfawrogi’r hyn sy’n cuddio dan yr wyneb amrwd. Mae nifer o draciau’r albwm Fi Du yn arbennig yn awgrym clir o’r athrylith fyddai’n dod i’r amlwg.

7/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.