Y Pencadlys yn Neuadd Hendre nos Sadwrn (llun gan Vaughan Hughes)
Barry Chips fu yn Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre ger Bangor nos Sadwrn.

Mama Mia! Mae gan y Sin Roc Gymraeg Sdalwyn Eidalaidd newydd i’w drysori!!!

Doffiaf fy nghap i Don Owain Schiavone – roedd noson gwobrau’r Selar yn glamp o achlysur.

Ond nid y Don Sgif oedd yr unig Gymro o dras Eidalaidd i wneud argraff arna i ar y noson.

Dyn 35 oed o Fangor ydy Y Pencadlys. Dyn golygus gyda gwaed Eidalaidd a Chymraeg yn byrlymu yn ei wythiennau.

Ac mae’r  bwrlwm hwnnw wedi ei adlewyrchu yn ei gerddoriaeth ddawns unigryw, sy’n gyfuniad o ffraethineb a dial fel rasal.

Mae fy record gyda cherddoriaeth fel hyn yn eitha’ pathetig.  Ar binsh medraf fodio fy nghasgliad o gryno ddisgiau a brolio fy mod yn mwynhau’r tawelwch gyda Depeche Mode, yn cael ambell ddydd Llun glas efo New Order, ac yn rheibio roc a rôl efo Mylo…ac mae gen i gasgliad o ganeuon mwya’ poblogaidd Madonna.

Cyfareddol

Ond ar ôl gweld Y Pencadlys yn fyw nos Sadwrn ar lwyfan Nyth yng ngwobrau’r Selar, rydw i wedi fy nghyfareddu. A tydi peth felly ddim yn digwydd yn aml i un 37 oed sy’n teimlo fel hen vampire cant oed mewn gigs, yn sugno ar faeth yr ifanc. Ond be fedra i ddweud? Dw i ddim yn fodlon smalio licio golff a siarad am geir…

Mae caneuon Y Pencadlys yn ddiddorol, efo rhywbeth i’w ddweud mewn byr o eiriau. Cynnil ac awgrymog, briwsionyn blasus yn ehangu gorwelion y dychymig. Fel pob celf gwerth ei halen am wn i. (A thydw i erioed wedi bod i Oriel Mostyn, felly dw i’n bell o fod yn arbenigwr ar gelf).

Ond yn fyw, mae’n deg rhaffu ystrydebau ac adrodd bod Y Pencadlys yn mynd a’r caneuon i’r lefel nesaf, sawl warp speed yn gyflymach.

Mae’n adeiladu ei ganeuon electronig yn araf, gyda bît cadarn yn gyrru’r gân yn ei blaen, a haenau o synnau newydd yn cael eu hychwanegu i greu’r gacan gerddorol fwya’ blasus ers i gogydd Elvis ddefnyddio byrgyrs wiwerod i wneud treiffl i’r Un Tew.

Perfformans

I ychwanegu at y wledd glywedol, mae’r Pencadlys yn rhoi i ni berfformiad gweledol. Ar y noson roedd wedi ei wysgo yn lifrau’r dyn cadw gwennyn meirch, a phan gododd fwg y dry ice gerfydd ei draed, roedd yn diflannu i bob pwrpas, gyda dim ond ei fop o wallt du hynod Eidalaidd yn dod i’r golwg wrth iddo amrywio’i lais rhwng ffalseto a chanu cyhyrog oedd yn ymylu ar fod yn operatig, i’r clustiau hyn. Meddyliwch am Andy Garcia yn The Godfather Rhan Tri. Ydy, mae o mor flasus a hynny.

Pwy feddylia y medra dyn yn twidlo nobiau ar focs sŵn mewn wansi gwyn ddal sylw cyhyd?

Newyddion da

Mae yna ddiffyg caneuon pop Cymraeg diddorol efo ‘hwcs’ iddyn nhw. Ond mae’r bwlch ar fin cael ei lenwi.

Cyn Y Pencadlys ar lwyfan Nyth, cafwyd perfformiad llawn cytganiadau bachog gan Gwenno Saunders. Fel Yr Hanner Eidalwr, roedd hi’n cyfuno’r canu efo’r nob-dwidlo yn ddeheuig.

Mentraf ddweud ei bod wedi aeddfedu fel cerddor, ac mae ganddi’r ddawn brin honno o dynnu’r gynulleidfa i mewn i’r perfformiad. Rwy’n edrych ymlaen i wrando ar ei chaneuon eto’n  fwy astud, i weld a ydyn nhw’r perlau pop perffaith wnaeth fy machu ar y noson…mae yna rywbeth am synnau electronig wedi eu cyfuno efo bît cadarn sy’n amhosib i’w ddisgrifio mewn geiriau, a dyna pam fedra i ond argymell eich bod yn gwglo’r bobol yma ac yn gwrando dros eich hun. Ond nid yw hynny’n ddigon ychwaith, mae’n rhaid i chi fynd i weld y bobol yma’n fyw i gael syniad go-iawn o’u dawn.

Rhai eraill

Medrid bod wedi trefnu amseru’r bandiau’n well, fel bod Gai Toms yn canu tra’r oedd band y llwyfan arall yn setio fyny, yn hytrach nag yn cystadlu efo sŵn Sŵnami. Ac eto, cafwyd set ragorol gan Gai, efallai am ei fod yn ryw ymgorffori sefyllfa’r Cymry Cymraeg. Roedd ei frwydr yn erbyn cael ei foddi gan y sain o’r llwyfan arall, yn ryw ddrych o frwydr lleiafrif sydd ar erchwyn y dibyn, ond yn gwrthod ildio i’r llif.

Ond yn ei chyfanrwydd, noson arobryn Cariad x