Bydd Plant Duw yn lansio eu record gyntaf ers dros flwyddyn yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, nos Sadwrn.

Mae’r record fer ‘Lliwiau’ yn cynnwys 5 cân newydd gan y band o Fangor, a chafodd y cyfan ei recordio yn Stiwdio 1 yn Rachub gyda’r cynhrychydd Sam Durrant.

Tydyn nhw ddim wedi cyhoeddi record ers yr albwm ‘Distewch, Llawenhewch’ a ddaeth allan ym mis Rhagfyr 2011.

Dim problem efo Eos

Er ei bod yn ymddangos ar un adeg y bydden nhw’n lansio’r record ynghanol yr anghydfod rhwng y BBC a’r corff hawliau darlledu , Eos, doedd gan y band ddim amheuon am wneud.

“Mae EP wedi bod ar y gweill ers gymaint,” meddai Elidir Jones sy’n chwarae’r gitar fâs i’r band. “Doedd dim ffordd i wybod bod hyn i gyd am ddigwydd.”

Roedden nhw hyd yn oed yn gweld mantais am nad oes traciau wedi bod yn cael eu clywed cyn y lansio.

“Does dim cymhelliad gwleidyddol i ryddhau’r albwm rwan ac mae o yn golygu y bod pobl yn clywed lot llai o ddeunydd cyn i’r record ddod allan.

“Ond mae hi hefyd yn neis gwybod bod bandiau yn parhau i wneud pethau i gadw’r sîn i fynd a bod pethau’n dal i gael eu rhyddhau.”

Cyfle i wrando

Yr wythnos hon, mae posib clywed un gân y diwrnod ar wefan y band (http://www.plantduw.com/promopg/) ac mi fydd Alex Dingley a Mr Huw hefyd yn chwarae yn y lawnsiad nos Sadwrn.

Mae rhagflas o’r record i’w glywed ar y fideo islaw.

http://www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=KFTE5G9QiOs