Mae drama radio newydd yn adrodd hanes y tridiau ym mis Chwefror 1941 pan syrthiodd bomiau Hitler ar ddinas Abertawe.

Manon Eames yw awdur Tridiau yn Chwefror, sydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru mewn tair rhan am dair noson yn olynol, fel y bu’r bomio 70 mlynedd yn ôl.

“Mae pob un darn deg munud yn ymdrin ag un diwrnod. Erbyn y drydedd noson, roedd pawb yn meddwl ei bod hi’n ddiwedd y byd,” meddai’r dramodydd, sy’n byw yng nghanol Abertawe.

Ffeindiodd hanes un tŷ yn ardal Mayhill lle bu 11 aelod o’r un teulu farw, o fabi chwe mis i oedolyn 53 mlwydd oed. Cafodd dros 200 o bobol eu lladd yn y Blitz yn Abertawe , er bod pobol yn dal i ddadlau bod y nifer yn uwch.

“Mae o yn isel iawn o feddwl beth oedd y difrod. Doedd dim dŵr, dim trydan, dim nwy gan, a dim siopau.

“Roedd hi’n uffernol o oer. Yr ail noson, doedd llawer o bobol ddim wedi mynd i’r llochesi yn y gerddi achos eu bod hi’n rhewi yn ofnadwy ac yn bwrw eira, felly mi wnaeth lot ohonyn nhw aros yn eu tai, yn y twll dan grisiau neu dan fordydd. Dyna pam gafodd cymaint eu lladd.”

Cafodd y rhaglen gyntaf ei darlledu ddoe ac fe fydd y ddwy raglen nesaf heddiw ac yfory am 10.30am.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror