Un o feirdd mwya’ Cymru oedd enillydd tair o’r gwobrau barddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yna goron driphlyg i’r prifardd a’r cyn Feuryn Gerallt Lloyd Owen wrth iddo ennill ar Gywydd i Iolo Morganwg, ar y Tribannau ac ar Hir a Thoddaid i Saint Athan.

Fe gafodd ganmoliaeth uchel am bob un o’r cyfansoddiadau buddugol – ond doedd o ddim yn y Babell Lên i dderbyn ei wobrau.