Fe fydd cylchgrawn barddoniaeth a gafodd ei sefydlu union flwyddyn yn ol yn parhau – cyhyd ag y bydd pobol yn dal i danysgrifio.

Yn y rhifyn diweddara’, mae’r golygydd, Meirion MacIntyre Huws, yn dweud ei fod am ddal ati.

“Un o’r sgwarnogod a godwyd… oedd a fyddai’r cylchgrawn yn fwy o gnec nag o glec?” meddai.

“Ond credu fod yna ddyfodol i’r cylchgrawn wnes i a’r colofnwyr…”