Catrin Glyn
Mae cymdeithas Cyfeillion Ellis Wynne wedi penodi Swyddog Datblygu newydd er mwyn gweithredu cynlluniau’r cwmni cymunedol yn hen gartref y bardd, Y Lasynys, ger Harlech.

Fe fydd Catrin Glyn, o Fwlchtocyn, Abersoch yn dechrau yn ei swydd yr wythnos hon.

Ers gadael y coleg, bu Catrin, 25, yn gweithio gyda Grŵp Cymunedau’n Gyntaf Pen Llŷn. Astudiodd hi seicoleg ym Mhrifysgol Bangor cyn hynny.

Canolfan Dehongli newydd ar y gweill

Dywedodd Gerallt Rhun, Cadeirydd bwrdd Cyfeillion Ellis Wynne: “Rydym yn falch iawn o gael penodi person mor dalentog a brwdfrydig ar gyfer y gwaith hwn ac hoffem ddiolch i gronfa CIST, Cyngor Gwynedd am y gefnogaeth ariannol.

“Yn ystod mis Chwefror byddem yn cyflwyno ceisiadau i’r Parc Cenedlaethol gan obeithio cael hawl i godi canolfan dehongli newydd ar safle hen feudy gerbron y Lasynys.

“Cyfrifoldeb Catrin fydd cynyddu  nifer yr unigolion a chymdeithasau sydd yn ymweld a’r Lasynys, trefnu mwy o weithgareddau a chydweithio gyda’r tîm technegol i wireddu’r freuddwyd o sefydlu canolfan ddehongli fydd yn adnodd pwysig.”

‘Cyffrous’

“Dwi yn edrych ymlaen, ac yn siŵr fydd e’n gyfnod cyffrous,” meddai Catrin wrth Golwg 360. “Rwy’n gobeithio trefnu llawer o ddigwyddiadau yn Lasynys yn y dyfodol agos.”

Mae Cyfeillion Ellis Wynne hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr, i helpu i gynnal hen gartref y bardd, ac ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Y Bardd Cwsc

Cafodd Ellis Wynne ei eni a’i fagu yn Y Lasynys.

Daeth i amlygrwydd fel awdur ‘Gweledigaetheu y Bardd Cwsc,’ sy’n cael ei ystyried yn esiampl ardderchog o’r Gymraeg ysgrifenedig cyn iddi gael ei llygru gan ddylanwadau allanol.

Cyhoeddwyd y llyfr yn Llundain yn 1703.  Bu farw Ellis Wynne yn 1734, a’i gladdu dan yr allor yn Llanfair, ger Harlech.