Fe fydd y ddeuwad boblogaidd Tony ac Aloma yn cyhoeddi eu hunangofiant – Cofion Gorau – yr wythnos hon.

Yn ôl y cyhoeddwyr, mae’r hunangofiant yn ‘datgelu’r gwir am berthynas y ddau a’u bywyd ar, ac oddi ar, y llwyfan’.

Mae Tony ac Aloma yn casglu atgofion am gyfnod sydd ddim ymhell o hanner can mlynedd.

“Mae rhai o’r atgofion wedi bod yn  felys ofnadwy. Rydan ni wedi chwerthin lot wrth ei wneud o. Ond, mae ’na atgofion trist yna hefyd,” meddai Aloma wrth Golwg360.

“Mae ’na bethau mae pobl wedi arfer byw efo nhw  ac wedi’u rhoi i un ochr ac wedi cario mlaen – fatha unrhyw un sydd wedi bod drwy brofedigaeth er enghraifft.

“Mae’r blynyddoedd cynnar yn galed ofnadwy ac wedyn mae amser fel tasa fo’n toddi’r boen. ‘Dw i wedi chwerthin lot ac wedi crio lot. Mae’n rhaid i bob dim fod mor berffaith a fedrwn ni ei wneud o…”

‘Cemeg’

Yn y llyfr, mae Tony ac Aloma hefyd yn son mwy am y berthynas rhyngddynt.

“Ar lwyfan rydan ni’n ddau gariad. Toes neb arall yn bod bryd hynny, dim ond ni’n dau,” meddai Tony yn yr hunangofiant.

“Ond pan ddaw’r ddau ohonon ni oddi ar y llwyfan, mae gan Tony ei fywyd o ac mae gen innau fy mywyd i,” meddai Aloma sy’n siarad yn rhydd am y berthynas rhyngddynt.

“Fyddai’n gwylio’r peth Dancing on Ice ma weithia ac yn gweld Torvill and Dean yn dawnsio’r Bolero fo’i gilydd – fyddai’n meddwl bod ’na rhywbeth yno nad ydi pobl yn gwybod amdano. Ond, dw i’n meddwl mai’r un math o beth yw’r chemistry rhwng Tony a fi, os di o’n gweithio – ti’n gafael yn dynn ynddo,” meddai.

Fe ddywedodd Aloma bod posibilrwydd y bydd yn “ymddeol ym mis Ebrill” flwyddyn nesaf. Eisoes, dywedodd bod posibilrwydd o gyfres rhaglenni amdanynt ar S4C. Fe fydd y ddau hefyd yn recordio cryno ddisg ym mis Ionawr, meddai.  “Mae’r caneuon yn rhai rydan ni’n licio – y stwff rydan ni wedi gwneud yn y blynyddoedd diwethaf.”

‘Rhywbeth sbesial iawn’

“Mae’n rhyfeddod gen i’r ddau ohonon ni ein bod ni wedi medru dal ati i ganu efo’n gilydd dros gymaint o amser.

“Mae’r Cymry wedi bod yn hael iawn hefo ni. Do, mi fuon ni’n ffraeo yn ddigon cyson, ac mi fu gwahanu, ond dechreuodd rhywbeth sbeshal iawn y diwrnod y cerddais i lawr llwybr tŷ nain Aloma, rhywbeth sbesial sydd wedi dod â’r atgofion gorau posib i ni’n dau,” meddai Tony yn yr hunangofiant.