Bydd defnyddwyr anghofus llyfrgelloedd Gwynedd yn cael llechen lân am gyfnod o chwe wythnos wrth i’r Cyngor gynnig amnest ar eitemau sydd wedi eu benthyg a heb eu dychwelyd.

Yn ôl y cyngor y gobaith yw y bydd cynnig amnest yn denu pobol sydd wedi peidio defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell am fod ganddyn nhw lyfrau hwyr iawn neu’n poeni am ddirwyon.

“Os ydych chi’n teimlo embaras am fod arnoch chi ddirwyon ar eich cerdyn llyfrgell, neu gywilydd bod llyfrau, DVDs neu gryno ddisgiau wedi bod yn llechu yng ngwaelod y cwpwrdd ers misoedd, dyma gyfle gwych i chi allu ail-ddechrau gyda llechen lân,” meddai llefarydd.

Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal yr amnest o 14 Chwefror hyd 26 Mawrth 2011. Os bydd cwsmer yn dychwelyd eitemau sydd wedi eu benthyg o lyfrgelloedd Gwynedd yn ystod y cyfnod yma, bydd ei gyfrif, a’i gydwybod, yn cael eu clirio.

“Rydan ni’n sylweddoli nad ydi defnyddwyr yn mynd ati’n fwriadol gyda’r nod o beidio dychwelyd llyfrau neu eitemau i lyfrgelloedd, ond mae amgylchiadau yn golygu ar adegau fod pobl yn anghofio neu’n methu dod â nhw yn eu hol mewn pryd,” meddai Hywel James, Prif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd.

“Ond, yr hiraf mae pobl yn disgwyl, mae’n mynd yn fwy ac yn fwy anodd i bobl ddychwelyd yr eitemau am fod ganddynt gywilydd. Bwriad yr ymgyrch yw cynnig cyfle i gychwyn o’r newydd i bobl sy’n poeni ynghylch defnyddio eu tocynnau llyfrgell oherwydd bod ganddynt ddirwyon heb eu talu.”