Mae’r Ŵyl Gynganeddu yn ei hôl wedi pum mlynedd o orffwyso, a’r tro hwn gobeithiai’r trefnwyr y bydd yn ddigwyddiad blynyddol o 2011 ymlaen.

Ar benwythnos y 26ain a’r 27ain o Dachwedd, disgwylir weld torfeydd yn heidio draw i Dŷ Newydd, Llanystumdwy ar gyfer Gŵyl Gynganeddu 2011.

Daw llond gwlad o feirdd ynghŷd i arwain sesiynau, darlithoedd a gweithdai yn ogystal ag adloniant gyda’r hwyr. Mae tri gweithdy gwahanol amrywiol ar fore Sadwrn, bydd Ifan Prys yn arwain gweithdy i ddysgwyr y Gymraeg, Karen Owen yn hogi crefft y rhai sydd eisoes yn deall rheolau’r gynghanedd, a bydd Llion Jones yn trydar mewn trawiadau a bwrw  ati i annog pawb i gyflwyno eu gwaith ar lwyfan Twitter.

Wedi cinio, cyfle i bawb lenwi bol a thorri syched yn y Plu, bydd digwyddiadau’r prynhawn yn dechrau am 2yh yn Amgueddfa Lloyd George yng nghanol y pentref. Agorir y prynhawn gyda’r Athro Gwyn Thomas yn cyflwyno darlith yn trîn a thrafod gwaith a bywyd Dafydd ap Gwilym. Wedi’r ddarlith, bydd y “Dafydd ap Gwilym newydd” ac enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, Rhys Iorwerth, yn cael ei holi gan Myrddin ap Dafydd am ei awdl fuddugol.

Ers tro fyd, mae dadl wedi bod ymysg carfanau’r beirdd caeth a rhydd dros rinweddau eu dewis fesur neu os ydy’r llall yn derbyn mantais anheg mewn cystadleuaeth. I ymafael â’r pwnc, cynhelir Ymryson Drafod:Caeth v Rhydd lle daw wyth o feirdd ynghyd i fwrw’u barn gyda’r Archdderwydd T. James Jones yn cadw trefn ar y cyfan.

Erbyn 8yh, bydd hi’n bryd i bawb ymlwybro draw i Westy’r Marîn yng Nghricieth i wylio’r ornest dros bwy caiff ei ddewis yn Bencerdd Tŷ Newydd. Bydd deuddeg o feirdd yn cystadlu am y swydd a’r deitl anrhydeddus. Gwobrwyir ffon urddasol iddo ef neu hi deithio holl lwybrau’r wlad yn chwilio am lys i ganu yno. Bydd Idris Reynolds a T. James Jones yno’n feirniaid a Mei Mac i lywyddu’r noson a chadw trefn ar y gynulledifa.

A Walesi Bárdok, baled na wyddai nifer iawn amdani yma yng Nghymru. Hen faled ydyw o’r Hwngari sy’n adrodd hanes pumcant o feirdd yn cael eu herlyn gan Edward I. Yn Hwngari, mae pob plentyn oedran ysgol uwchradd yn dysgu’r faled ar eu cof ac fe’i adnabyddir fel un o gerddi pwysicaf y wlad. Yn ddiweddar, mae prosiect wedi sefydlu er mwyn denu sylw cynulleidfa ehangach at y faled yma, gan ddechrau yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ar nos Wener y 25ain o Dachwedd. Bydd Twm Morys, Lázló Iriyni (o Hwngari) a John Asquith yn trafod hanes y faled yn ogystal â’i pherfformio mewn tair iaith.

Dyma benwythnos i bawb o bob oed a gallu cynganeddu i’w fwynhau gydag amrywiaeth braf o weithgareddau ysgafn ac o ddifri.

Mae’r tocynnau ar werth yn Nhŷ Newydd a gellir eu prynu o flaen llaw drwy ffonio 01766 522 811, neu trwy e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org. Gwerthir y tocynnau ar gyfer sesiynau unigol a dim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael i rai sesiynau, fel archebwch ymlaen llaw i arbed siomedigaeth. Mae gostyngiad o 30% i fyfyrwyr.

Am fwy o fanylion, ewch draw i’n gwefan www.tynewydd.org neu cysylltwch â Thŷ Newydd.