Mae Morgan Owen wedi ennill gwobr farddoniaeth newydd sbon yn yr ieithoedd Celtaidd.

Fe ddaeth i’r brig yng Ngwobr Pamffledi Barddoniaeth Michael Marks ar gyfer ei gyfrol moroedd/dŵr.

Derbyniodd ei wobr nos Fawrth ddiwethaf (Rhagfyr 10) yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r wobr Geltaidd gael ei dyfarnu, ac mae wedi’i noddi gan y Michael Marks Charitable Trust a’r Fonesig Marina Marks.

Roedd naw o bamffledi’n cystadlu am y wobr, wyth yn y Gymraeg ac un yn y Gernyweg.

Y rhai Cymraeg oedd Mudo gan Cris Dafis, Llanw + Gorwel gan Grug Muse, Neu gan David Greenslade, Golau a Mawr a Cherddi Eraill gan Dyfan Lewis, Cywilydd gan Iestyn Tyne a Hwn ydi’r llais, tybad? gan Caryl Bryn.

Y gyfrol Gernyweg yw Genev Dons gan Tanya Brittain.

‘Y casgliad mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus’

Yn ôl y Prifardd Dafydd Pritchard, moroedd/dŵr oedd y gyfrol fwyaf uchelgeisiol yn y gystadleuaeth.

“Dywedwn i mai hwn oedd y casgliad mwyaf uchelgeisiol o gerddi a’r un mwyaf llwyddiannus hefyd… Mae’r cerddi yn gyfoethog o ran ffurf a mynegiant…ac weithiau’n dwyn i gof cerddi Euros Bowen,” meddai.

“Mae’n dda gweld cymaint o bamffledi barddoniaeth newydd yn Gymraeg a phob un o safon uchel.

“Gobeithio y gwelwn ni’r un egni ym myd cyhoeddi barddoniaeth yn ystod y flwyddyn newydd.”