Bu farw awdures a ddaeth i amlygrwydd am ei hanesion a’i phortreadau o rai o gymeriadau brith siroedd y de-orllewin yn oes Victoria.

Bethan Phillips o Lanbed oedd awdur ‘Dihirod Dyfed’ a gafodd ei gyhoeddi yn 1991, ar ôl iddi ymchwilio i hanes chwe llofruddiaeth erchyll rhwng 1850 a 1916 ar gyfer cyfres o’r un enw ar S4C.

Fe fu hi hefyd yn sgriptio ar gyfer y gyfres Almanac yn ogystal â chyfrannu erthyglau i sawl cylchgrawn a phapur newydd dros y blynyddoedd.

Un arall roedd hi’n awdurdod arno oedd Joseph Jenkins, y ‘Swagman’, a adawodd ei gartref yn Nhregaron yn 50 oed i wneud ei ffortiwn yn Awstralia

Ar ôl astudio ei ddyddiaduron, cyhoeddodd gyfrol yn seiliedig arnyn nhw, ‘Rhwng Dau Fyd’, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1998.

Fe fu hi’n dioddef o dementia ers rhai blynyddoedd ac roedd mewn cartref gofal.

Roedd yn wraig i John Phillips, cyn-brif weithredwr hen sir Dyfed, sydd wedi bod yn pwyso am well chwarae teg i bobl sy’n dioddef o’r cyflwr.

Yn ei hunangofiant, Agor Cloriau, a gafodd ei gyhoeddi fis Mai y llynedd, mae John Phillips yn llym ei feirniadaeth o’r Gwasanaeth Iechyd am drin dementia fel cyflwr sy’n gofyn am ofal yn hytrach nag fel clefyd.