Mae’r canwr a’r actor, Iwan ‘Iwcs’ Roberts, ar fin mentro i fyd llyfrau am y tro cyntaf, gyda disgwyl i’w nofel gyntaf – Dal y Mellt – gyrraedd y siopau o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae’r gŵr o Drawsfynydd yn enwog am fod yn un rhan o’r ddeuawd boblogaidd, Iwcs a Doyle, a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru yn yr 1990au gyda’r gân ‘Cerrig yr Afon’; ac yn y byd actio mae’n fwy adnabyddus am bortreadu’r cymeriad ‘Kevin Powell’ yn y gyfres sebon, Pobol y Cwm.

Ond mae’r awydd i sgrifennu nofel wedi bod “yng nghefn y meddwl” erioed, meddai Iwan Roberts wrth golwg360, ac mae wedi bod yn rhoi pen ar bapur ers yn naw oed.

“Roeddwn i isho sgrifennu rhywbeth cyflawn, da,” meddai. “Ac wedyn, mi wnes i roi cyfle i mi fy hun ei wneud, ac mi gymrodd hi ddwy flynedd i gyd…

“Ac ar ôl i mi sgrifennu’r drafft cyntaf yn llawrydd, mi roeddwn i’n gorfod ei deipio fo allan… doeddwn i erioed wedi defnyddio cyfrifiadur.

“Fe wnes i wedyn yrru’r drafft cyntaf i ffwrdd i weisg gwahanol, ac fe ddaeth y Lolfa yn ôl mewn chwarter awr i ddweud bod ganddyn nhw ddiddordeb.

“Ac mae’r gweddill rwan yn hanes…”

Pobol a ffawd

Mae Dal y Mellt yn cael ei disgrifio ar wefan Gwales fel “nofel sy’n berwi o hiwmor, dweud crafog, gwreiddiol ac o ddisgrifiadau sy’n cyffwrdd i’r byw.”

Yng nghwmni’r cymeriadau Carbo, Mici, Les ac eraill, mae’r stori yn gwibio o le i le, megis Caerdydd, Caergybi, Llundain a Dulyn.

Yn ôl Iwan Roberts, mae gan rymoedd ffawd le blaenllaw yn y nofel, ond ei ddiddordeb mewn pobol a’i ysgogodd i’w sgrifennu yn y lle cyntaf, meddai wedyn.

“Mae genna i ffrind oedd yn gweithio yn y Merchant Navy fel chef, a fan’na oedd dechrau’r stori i mi – cael sgyrsiau gyda phobol a siarad gyda phobol am eu profiadau nhw mewn bywyd.

“Dw i’n ffeindio pobol yn ddiddorol iawn…”

Dyma Iwan ‘Iwcs’ Roberts yn sôn rhagor am Dal y Mellt, a fydd ar gael yn y siopau o fis Hydref ymlaen…