Coron Llanbed i gyn-newyddiadurwr Golwg

Diweddarwyd  
Martin Huws

Martin Huws wedi’i goroni yn Eisteddfod Rhys Thomas James, Llanbedr Pont Steffan

Llun: Eisteddfod Rhys Thomas James

Martin Huws sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Rhys Thomas James yn Llanbedr Pont Steffan eleni.

Fe gafodd y cyn-newyddiadurwr ei goroni mewn seremoni arbennig neithiwr (nos Sadwrn, Awst 24), a hynny ar ôl llunio casgliad o gerddi rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun ‘Cusan’ neu ‘Cusanau’.

Fe ddaeth i frig cystadleuaeth oedd wedi denu naw o gystadleuwyr.

“Yn wyneb y testun, fe fyddai rhywun yn disgwyl cerddi tyner ond mae’r bardd hwn yn mynd â ni i gyfeiriad tra gwahanol, yn procio’r annisgwyl, wrth sôn am filwr sy’n mynd i ryfel ac yn diodde o PTSD,” meddai’r beirniad Tudur Dylan Jones yn Ysgol Bro Pedr.

“Yn y cerddi mae’r bardd yn cyferbynnu erchylltra rhyfel â chusanau ei gariad.

“Mi fyddai’n hawdd mynd dros ben llestri ond mae’r bardd buddugol yn gwybod sut a phryd i ymatal.

“Mae’n cyfeirio at y clefyd yn delynegol ac mae ei gynildeb yn eithriadol.

“Milwr bychan sy’n llwyr deilwng o’r Goron eleni.”

Mae’n ennill coron a siec gwerth £200.

Y bardd buddugol

Roedd Martin Huws o  yn un o ohebwyr cyntaf cwmni Golwg pan gafodd ei sefydlu yn 1988.

Fe weithiodd e wedyn i’r Western Mail, Y Byd ar Bedwar, Taro Naw a Cymru’r Byd.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud bod ei “ddyled yn fawr i’r athro Cymraeg, Elvet Thomas, a’r athro Ffrangeg, Ted Poole”.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Gwobrau BAFTA Cymru 2018