Bu’r ddwy brifwyl ddiwethaf yn Llanrwst yn ddigwyddiadau o bwys ym mywyd y cerddor a’r ddarlledwr, Gareth Glyn, a bydd yr un eleni yn un i’w chofio iddo hefyd.

Mae’r ffaith y bydd ei hunangofiant, Da Capo (Gwasg Carreg Gwalch), yn cael ei fwrw i’r byd ar faes yr ŵyl “ddim yn gyd-ddigwyddiad o gwbwl”, meddai cyn-gyflwynydd y Post Prynhawn.

“Mae fy hynafiaid i ar ochr fy nhad i gyd yn dŵad o Lanrwst, ac roedd fy nhad [Y Prifardd T. Glynne Davies] yn enillydd y Goron yno yn 1951 – y flwyddyn y ces i fy ngeni – wedyn roedd yna bob math o resymau ar gyfer cael yr hunangofiant yn barod ar gyfer y brifwyl honno,” meddai Gareth Glyn wrth golwg360.

“Rhochian cysgu” ym Mhrifwyl 1951

Mae’r hunangofiant yn cychwyn gyda’r fuddugoliaeth fawr yn 1951, ac er mai prin mis oed ac yn “rhochian cysgu” oedd Gareth Glyn ar y pryd, mae’n cydnabod bod y digwyddiad wedi bod yn un o bwys i’w deulu ac i lenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol.

“Dw i’n cofio dim am yr Eisteddfod, o dw i wedi cael y stori, wrth gwrs,” meddai Gareth Glyn.

“Mi oedd Mam efo fi, ond tra oeddem ni ddim yn cael mynd i mewn i’r pafiliwn, fe gefais i’r stori lawn bod fy nhad a’i dad yntau, Idwal, wedi mynd i mewn gyda’r tocynnau oedd gyda nhw.

“Does yna ddim byd pellach am fy mhrofiad fy hun am Eisteddfod 1951 heblaw, wrth gwrs, ei bod hi’n Eisteddfod bwysig iawn, iawn i ´Nhad, ac mae’n braf gen i ddweud fy mod i wedi cael fy ngeni tua’r un pryd â’r fuddugoliaeth honno efo fo.”

‘Llanrwst’

Bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, tro’r mab oedd hi i adael ei farc ar lwyfan y Brifwyl adeg ei dychwelyd i Ddyffryn Conwy yn 1989.

Gareth Glyn oedd cyfansoddwr y darn ar gyfer cystadleuaeth yr unawd tenor, a phenderfynodd y cerddor osod geiriau ei dad – o’r gerdd ‘Llanrwst’ – ar gerddoriaeth.

“Pan wnes i eistedd i lawr ac edrych ar y geiriau, rywsut neu’i gilydd, fe sgrifennodd y gân ei hun,” meddai Gareth Glyn wrth hel atgofion am y cyfnod.

“Dw i’n meddwl i mi orffen mewn rhyw hanner awr, heb altro unrhyw beth yr o’n i wedi ei sgrifennu wrth fynd ymlaen…

“Dw i wedi bod yn meddwl ers hynny, tybed os oedd o’n rhywbeth y tu allan i mi yn sgrifennu’r gân, yn hytrach na fi? Achos fel yr oedd hi’n digwydd bod, roedd fy nhad yn ei waelodd olaf bryd hynny a wnaeth o ddim byw i glywed ‘Llanrwst’, achos roedd o wedi marw yn y flwyddyn 1988, fisoedd cyn yr Eisteddfod, gwaetha’r modd.”

Bydd Da Capo yn cael ei lansio mewn sesiwn yn y Babell Lên am 1.30yp ar ddydd Sul, Awst 4.